BBC Cymru Fyw

Leinster 18-12 Gweilch

Published
image copyrightHuw Evans agency
Colli oddi cartref wnaeth y Gweilch yn erbyn Leinster yn Nulyn, a hynny wrth i holl bwyntiau'r ddau dîm ddod drwy giciau cosb.
O fewn pum munud cyntaf y gêm llwyddodd Sam Davies i roi'r Gweilch ar y blaen gyda chic gosb, ond ni pharhaodd y fantais honno'n hir wrth i Ian Madigan sgorio cic gosb i'r tîm cartref.
Cafodd Madigan ail gynnig ar y pyst, gan ddod â'r sgôr i 6-3 wedi ychydig dros chwarter awr, cyn ychwanegu tri phwynt arall i gyfanswm Leinster.
Ychydig cyn diwedd yr hanner cyntaf cafodd Davies y cyfle i ddod â'r timau yn gyfartal gyda dwy gic gosb o fewn llai na 10 munud, gan olygu bod y sgôr yn 9-9 ar yr hanner.
Wedi 52 munud aeth Leinster yn ôl ar y blaen wedi i Jimmy Gopperth sgorio cic gosb, ond ni pharhaodd y fantais yn hir wrth i Davies sgorio tri phwynt i'r Gweilch, gan ddod y'r ddau dîm yn gyfartal unwaith eto.
Ond saith munud cyn y chwiban olaf cafodd Leinster gic gosb arall, gyda Gopperth yn sicrhau tri phwynt arall i'r Gwyddelod.
Cyn iddo lwyddo gyda chic gosb arall lai na munud cyn i'r gêm ddod i ben, gan olygu sgôr terfynol o 18-12.