Cludo cerddwr i'r ysbyty mewn hofrennydd
- Cyhoeddwyd

Roedd y dyn 58 oed wedi bod yn cerdded ar Tryfan ddydd Sadwrn.
Mae cerddwr wedi'i gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd wedi iddo ddisgyn 75 troedfedd yn Eryri.
Roedd y dyn 58 oed wedi bod yn cerdded ar Tryfan pan ddisgynodd gan anafu ei gefn, ddydd Sadwrn.
Cafodd ei gludo i Ysbyty Gwynedd, Bangor gan hofrennydd yr Awyrlu o'r Fali.
Yn ogystal derbyniodd gymorth gan dîm achub mynydd Dyffryn Ogwen.