Ymestyn cynllun sgôr hylendid bwyd
- Cyhoeddwyd

Mae'r ddeddfwriaeth sy'n golygu ei bod hi'n orfodol i siopau a thai bwyta yng Nghymru ddangos eu sgôr hylendid bwyd bellach yn cael ei ymestyn i gynnwys cynhyrchwyr bwyd a chyfanwerthwyr.
Daw'r cyhoeddiad wrth i'r cynllun gwreiddiol ddathlu ei ben-blwydd yn un oed.
Bydd busnesau sy'n gwerthu o gwmni i gwmni bellach yn derbyn sgôr hylendid bwyd gan orfod ei arddangos neu wynebu cael eu herlyn.
Dywedodd y dirprwy weinidog, Vaughan Gething, bod y cynllun wedi bod yn "llwyddiant mawr" ac y byddai ei ehangu yn rhoi "sicrwydd pellach" i bobl.
Cymru oedd y wlad gyntaf i gyflwyno system sgôr hylendid bwyd statudol ym mis Tachwedd 2013.
Mae'r Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 yn ei gwneud hi'n ofynnol i fusnesau'n sy'n gwerthu bwyd yn uniongyrchol i gwsmeriaid i ddangos eu sgôr hylendid bwyd mewn man amlwg.
Mae busnesau o'r fath yn cynnwys tai bwyta, tafarndai, gwestai ac archfarchnadoedd.
Dirwy o £200
O ddydd Llun ymlaen bydd y ddeddfwriaeth hefyd yn effeithio ar fusnesau sy'n gwerthu bwyd o gwmni i gwmni fel cyfanwerthwyr.
Yn dilyn archwiliad gan yr awdurdod lleol byddan nhw'n derbyn sticer i'w arddangos, a bydd y sticer hwnnw yn dangos eu sgôr hylendid bwyd.
Gall unrhyw gwmni sydd ddim yn arddangos eu sgôr hylendid bwyd dderbyn dirwy o £200 neu gael eu herlyn.
Yn ogystal bydd yn rhaid i berchnogion neu weithwyr y cwmni ddweud wrth eu cwsmeriaid beth yw eu sgôr hylendid bwyd, os oes rhywun yn eu holi.
'Effaith gadarnhaol"
Mae'r cynllun yn cael ei ehangu ar ei ben-blwydd yn un oed, gyda Llywodraeth Cymru yn dweud ei fod wedi cael "effaith gadarnhaol" ar safonau hylendid bwyd.
Mae mwy na hanner o fusnesau sy'n gwerthu bwyd wedi llwyddo i dderbyn y sgôr uchaf o bump, ac mae mwy na 92% yn foddhaol neu well.
Dywedodd Mr Gething bod ymestyn y cynllun i gynhyrchwyr bwyd yn "gam pwysig, fydd yn rhoi sicrwydd ychwanegol i fusnesau a chwsmeriaid.
"Mae ei gwneud hi'n ofynnol i fusnesau arddangos eu sgôr hylendid bwyd wedi cael yr effaith roeddem ni wedi'i obeithio drwy wella sgoriau hylendid bwyd.
"Rydw i wrth fy modd bod nifer y busnesau gyda sgôr isel yn lleihau. Mae hyn yn newyddion da i bobl Cymru a busnesau bwyd yng Nghymru.
"Rydw i'n cydnabod y gwaith sylweddol sydd wedi'i wneud gan awdurdodau lleol er mwyn sicrhau llwyddiant y cynllun, a hynny mewn cyfnod o gyllidebau tynn a phrinder adnoddau."
Straeon perthnasol
- 28 Tachwedd 2013