Busnesau bwyd a diod yn gweld gwerth i'r Gymraeg

Meri Huws
Image caption Yn ôl y Comisiynydd Iaith, Meri Huws, mae'r Gymraeg yn arf marchnata gwerthfawr

Mae gwaith ymchwil gan Gomisiynydd y Gymraeg yn dangos bod busnesau bwyd a diod o Gymru yn gweld gwerth masnachol i ddefnyddio'r Gymraeg, a hynny er mwyn denu a chadw cwsmeriaid.

Ddydd Llun yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd bydd y Comisiynydd yn lansio adroddiad ymchwil Gwerth y Gymraeg i'r sector bwyd a diod yng Nghymru.

Fel rhan o'r ymchwil, cafodd cwmnïau bwyd a diod o wahanol rannau o'r wlad eu cyfweld, cwmniau megis Blas ar Fwyd, Caws Cenarth, Edwards o Gonwy, Waffles Tregroes a Llaeth y Llan.

'Arf marchnata gwerthfawr'

Daw'r ymchwil i'r canlyniad bod defnyddio'r Gymraeg yn:

  • gwneud i'r cynnyrch sefyll allan
  • cynnig cyfleoedd i werthu mewn marchnadoedd newydd
  • atgyfnerthu delwedd brand
  • sicrhau cefnogaeth cwsmeriaid
  • cynyddu ymwybyddiaeth o'r cynnyrch
  • atgyfnerthu tarddiad lleol
  • arwydd o ansawdd.

Yn ôl Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws: "Mae sefyll allan mewn marchnad gystadleuol wastad yn her, ond yng Nghymru mae gan fusnesau arf marchnata gwerthfawr yn yr iaith Gymraeg.

"Fy ngobaith yw y bydd y dystiolaeth yr ydym wedi'i chasglu yn cryfhau'r neges i fusnesau eraill y gall y Gymraeg fod o fudd ac o fantais iddynt mewn cymaint o wahanol ffyrdd.

"Byddwn yn parhau i weithio gyda busnesau er mwyn sicrhau eu bod yn manteisio ar y cyfleoedd hyn a'u bod yn defnyddio'r dystiolaeth er mwyn adeiladu ar eu defnydd o'r Gymraeg ac yn datblygu ffyrdd o gyflwyno'r iaith i'w brand a'u gweithredoedd."

Straeon perthnasol