Angen gwella'r ddarpariaeth i sicrhau gofal lliniarol i fwy yng Nghymru

Person oedrannus
Image caption Yn ôl yr adroddiad roedd pobl hŷn sy'n dioddef o ganser yn llai tebygol o dderbyn gofal o'r fath, na phobl iau.

Does 'na ddim digon o bobl yng Nghymru yn derbyn gofal lliniarol ar ddiwedd eu hoes.

Dyna gasgliad adroddiad gan elusen Marie Curie a Sefydliad Bevan.

Dywed bod llai na hanner y bobl fu farw o ganser yn 2012 wedi derbyn gofal lliniarol, a dim ond 5% o bobl fu farw o gyflyrau eraill dderbyniodd gofal o'r fath.

Yn ogystal, mae'r gwaith ymchwil yn pwysleisio bod 'na nifer fawr o ymweliadau â'r ysbyty gan bobl yn ystod blwyddyn olaf eu bywyd, a bod 'na nifer fawr o ddyddiau lle mae cleifion yn treulio mewn gwelyâu yn yr ysbyty.

O'r miliwn o ddyddiau sy'n cael eu treulio mewn gwelyâu yn yr ysbyty gan bobl ym mlwyddyn olaf eu hoes, mae 685,000 yn digwydd oherwydd yr angen i ymweld â'r ysbyty ar frys.

Mae'r adroddiad wedi'i seilio ar ddadansoddiad o ddata yn ymwneud â marwolaethau yng Nghymru yn 2012, a chafodd y wybodaeth ei ddarparu gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS).

Gofal lliniarol

Gofal lliniarol yw'r gofal sy'n cael ei roi i gleifion â salwch terfynol ar ddiwedd eu bywydau.

Gall gynnwys triniaeth i reoli poen a symptomau eraill ynghyd â chymorth seicolegol a chymdeithasol.

Pwrpas gofal lliniarol yw sicrhau'r ansawdd bywyd gorau ar gyfer cleifion a'u teuluoedd, yn hytrach na gwella'r salwch.

'Angen gwneud mwy'

Daeth yr adroddiad i'r casgliad mai dim ond 17% o'r bobl fu farw yn 2012 dderbyniodd ofal lliniarol arbenigol.

Roedd pobl hŷn sy'n dioddef o ganser yn llai tebygol o dderbyn gofal o'r fath, na phobl iau, gyda 35% o bobl dros 85 oed wedi derbyn gofal lliniarol i'w gymharu â 58% o bobl hyd at 44 oed.

Yn ôl Simon Jones, Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus Marie Curie Cymru: "Cydnabyddir yn gyffredinol bod gofal lliniarol arbenigol a ddarperir gan arbenigwyr clinigol yn gallu bod yn amhrisiadwy i bobl â chyflyrau mwy cymhleth yn ystod misoedd, wythnosau a dyddiau olaf eu bywyd, a gall hyn ddigwydd ymhob math o sefyllfa, gan gynnwys yn y cartref neu mewn sefydliadau fel ysbyty neu hosbis.

"Mae gan Gymru lefel uwch o wasanaethau gofal lliniarol arbenigol fesul 1,000 o farwolaethau na Lloegr a Gogledd Iwerddon.

"Ond mae ein hadroddiad yn dangos yn glir fod angen gwneud mwy o waith eto er mwyn sicrhau fod pawb sydd angen gofal lliniarol arbenigol, a'r rhai a fyddai'n elwa ohono, yn ei gael."

Dywed bod y lefel gofal lliniarol arbenigol a gofrestrwyd i bobl sy'n marw o ddementia mor isel â 3.8%.

"Yn amlwg, bydd angen i bobl gael y math o ofal arbenigol na ellir mo'i ddarparu ond mewn ysbyty tua diwedd eu bywyd," ychwanegodd.

"Serch hynny, rydym yn gwybod y gallwn ni ofalu amdanyn nhw'n well mewn lleoliadau eraill, gan gynnwys eu cartrefi'u hunain."

Mae awduron yr adroddiad wedi gwneud nifer o argymhellion yn seiliedig ar eu hymchwil.

'Gofal a chefnogaeth o safon'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Dim ots ble yng Nghymru mae rhywun yn byw, dylai pobl sy'n agosau at ddiwedd eu hoes allu derbyn gofal a chefnogaeth o safon.

"Mae gofal lliniarol a gofal diwedd oes wedi gwella'n sylweddol ers 2008, pan fuddsoddodd Llywodraeth Cymru mewn gwasanaethau gofal lliniarol arbenigol.

"Os yw person yn dymuno marw yn yr ysbyty, mewn hosbis, neu gartref, rydym ni'n darparu arian er mwyn sicrhau bod gofal proffesiynol ar gael.

"Ym mis Awst fe wnaethon ni gyhoeddi y byddai £6.4 miliwn yn cael ei roi i gefnogi hosbisau a darparu gofal lliniarol ar draws Cymru.

"Bydd yr arian fydd yn cael ei roi i hosbisau ac ysbytai yn 2014-15 yn sicrhau bod ymgynghorwyr, nyrsys a chefnogaeth eraill ar gyfer gofal lliniarol ar gael ym mhob rhan o Gymru."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.