Dyn yn marw wedi gwrthdrawiad yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Gwrthdrawiad Abertawe
Disgrifiad o’r llun,
Mae car Peugeot glas wedi'i gludo o'r man ble ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

Mae dyn wedi marw a dynes wedi'i hanafu wedi i gar rholio lawr stryd yn Abertawe, gan olygu eu bod yn sownd dan y cerbyd.

Cafodd y ddau, credir eu bod yn eu 60au, eu taro gan y car ar Finsbury Terrace, Brynmill am tua 9:20yb ar ddydd Sul, 30 Tachwedd.

Mae'r ddynes wedi'i chludo i'r ysbyty mewn hofrennydd, ac mae'r heddlu'n dweud ei bod hi bellach yn ymwybodol.

Mae car Peugeot glas wedi'i gludo o'r man ble ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn ymchwilio i'r digwyddiad.

Dywedodd yr Arolygydd Jason Herbert: "Mae adroddiadau cynnar yn awgrymu bod cerbyd wedi rholio lawr y stryd a bod dyn a dynes wedi mynd yn sownd dan y car."

Yn ôl llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru: "Mae dau griw ac un swyddog yno ar hyn o bryd. Roedd yn rhaid iddyn nhw ryddhau pobl o oddi dan y cerbyd am 9:21yb.

"Roedd ambiwlans awyr yno a cherbyd ymateb brys."

Ffynhonnell y llun, Wales News Service