Darganfod ffatri ganabis ger gorsaf heddlu
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi darganfod ffatri ganabis anferth - a hynny drws nesaf i'w pencadlys ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Cafwyd hyd i'r planhigion mewn uned wag ychydig lathenni oddi wrth bencadlys Heddlu De Cymru ar Heol y Frenhines.
Mae Heddlu De Cymru yn dweud bod y tri dyn oedd yn cael eu holi ynglŷn â'r cyffuriau bellach wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu, wrth i'w hymholiadau barhau.
Mae cymdogion wedi sôn am eu "sioc" bod y cyffuriau'n cael eu tyfu mor agos at orsaf yr heddlu.
Dywedodd Hayley Pells, 33 oed sy'n gweithio i gwmni trwsio ceir: "Doedd gan neb unrhyw syniad beth oedd yn digwydd, ond efallai ei fod wedi bod yn digwydd am nifer o flynyddoedd.
"Am amser hir roedden ni'n meddwl bod yr uned yn wag. Doedden ni ddim yn gweld unrhyw un yn mynd nac yn dod am gyfnod hir. Tydi hynny ddim yn anghyffredin oherwydd bod nifer o'r unedau'n cael eu defnyddio i gadw nwyddau yn unig.
"Daeth yr heddlu draw i ofyn a oedden ni wedi gweld unrhyw un yn mynd ac yn dod o'r uned.
"Dywedodd yr heddlu bod ganddyn nhw amheuon am yr uned, gan anfon hofrennydd i sganio'r tymheredd, ond doedd dim gwahaniaeth rhwng tymheredd yr uned a phob uned arall.
"Yn ôl yr heddlu roedd y planhigion yn cael eu tyfu mewn bocsys wedi eu hinsiwleiddio, a dyna pam nad oedd yr hofrennydd wedi gallu darganfod y gwahaniaeth mewn tymheredd."