Wal yn dymchwel
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Wal yn dymchwel wrth ddathlu gôl

1 Rhagfyr 2014 Diweddarwyd 10:14 GMT

Roedd 'na gryn gyffro ar yr Ofal yng Nghaernarfon bnawn Sul pan ddaeth wal i lawr wrth i gefnogwyr ddathlu yn dilyn gôl.

Fe syrthiodd y wal tair trodfedd gan achosi i gefnogwyr ddisgyn i'r cae yn ystod gêm y Cofis yn erbyn y Seintiau Newydd.

Yn ôl ysgrifennydd y Caneris, Geraint Jones, chafodd neb eu hanafu, a daeth y gêm i stop am 10 munud er mwyn sicrhau fod pawb yn iawn.

Doedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ddim am wneud sylw am y tro.

Er iddyn nhw fod ar y blaen o ddwy gôl am gyfnod, colli 3-2 oedd hanes Caernarfon.

Daw'r fideo gan S4C.