Tai: 'Anghenion lleol' yn bwysig i 70%

adeiladu ty

Yn ôl canlyniadau arolwg barn Cymdeithas yr Iaith ar YouGov, mae dros 70% o bobl Cymru eisiau gweld penderfyniadau am dargedau tai yn cael eu gwneud yn lleol, ac yn seiliedig ar anghenion lleol.

Roedd 72% o'r bobl a holwyd yn yr arolwg yn cytuno y "dylai cynghorau lleol osod targedau tai yn seiliedig ar anghenion eu hardal leol".

Dim ond 11% o'r rhai a holwyd oedd yn meddwl y dylai awdurdodau cenedlaethol Cymreig wneud y penderfyniadau.

Roedd cefnogaeth gadarn dros bwerau lleol ymysg pob grŵp oedran, cefnogwyr pob plaid ac ym mhob ardal o'r wlad.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mi fydd y Mesur Cynllunio newydd yn gweld penderfyniadau cynllunio yn cael eu seilio ar y Cynllun Datblygu Lleol, ac felly yn ei gwneud yn ofynnol i'r iaith Gymraeg gael ei hystyried ochr yn ochr â materion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol eraill.

Manylion canlyniadau'r arolwg barn (gan gynnwys 'ddim yn gwybod'):

Pa un o'r canlynol sydd agosaf i'ch barn chi?

  • Dylai cynghorau lleol osod targedau tai yn seiliedig ar anghenion eu hardal leol - 72%
  • Dylai awdurdodau canolog Cymreig osod targedau i gynghorau lleol yn seiliedig ar anghenion cenedlaethol - 11%
  • Dim un o'r uchod - 5%
  • Ddim yn gwybod - 12%

Mae'r grŵp pwyso yn dadlau bod gorgyflenwad o dai nad ydynt yn fforddiadwy i'r boblogaeth leol, a bod hynny wedi cael effaith andwyol ar y Gymraeg ar lefel gymunedol.

Daw'r newyddion wrth i Gymdeithas yr Iaith lansio ei Fil Cynllunio amgen yn y Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Mawrth.

Dywedodd Tamsin Davies, llefarydd cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith: "Mae'n gwbl glir bod pobl Cymru yn cefnogi ein safbwynt bod angen system gynllunio sy'n llawer agosach at bobl.

"Yn anffodus, mae Bil Cynllunio'r Llywodraeth, mewn nifer fawr o ffyrdd, yn canoli grym yn bellach oddi wrth bobl.

"Yn y cynigion rydyn ni'n eu cyhoeddi heddiw, rydyn ni'n amlinellu gweledigaeth arall, o sefyllfa lle mae penderfyniadau yn cael eu gwneud yn lleol, gyda rôl lawer fwy i gynghorau cymuned ac awdurdodau lleol."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r Mesur Cynllunio yn ceisio gwella'r system gynllunio yng Nghymru er budd pawb.

"Yn allweddol i lwyddiant y mesur, mae sicrhau bod penderfyniadau cynllunio yn cael eu seilio ar y Cynllun Datblygu Lleol cyfredol (CDLl) sydd wedi bod yn destun ymgysylltu â'r gymuned ac mae'n seiliedig ar dystiolaeth berthnasol yn lleol.

"Mae hyn yn sicrhau bod penderfyniadau yn rhai rhesymegol, eu bod yn gyson a theg ac mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r iaith Gymraeg gael ei hystyried ochr yn ochr â materion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol eraill i gyflawni'r canlyniad cyffredinol gorau i gymunedau ledled Cymru."