O'r diwedd!

  • Cyhoeddwyd
De affricaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Dathlu buddugoliaeth brin yn erbyn De Affrica

Wrth i Gymru ddathlu buddugoliaeth brin yn erbyn un o gewri hemisffer y de, mae Gareth Charles, Gohebydd Rygbi BBC Cymru, yn asesu'r hyn ddysgodd Warren Gatland a'i dîm yn y bedair gêm yng nghyfres yr hydref.

Rhyddhad

O'r diwedd a diolch byth am hynny. Mae'n siŵr bod y geiriau wedi cael eu hail-adrodd gan filoedd ar hyd a lled Cymru nos Sadwrn. A doedd dim modd eu dweud nhw eiliad cyn y chwib olaf gyda Chymru bron iawn yn mynd lawr yr un trywydd cyfarwydd diweddar o golli yn y munudau olaf ar ôl ymdrech arwrol.

Nid hwn oedd perfformiad gorau'r gyfres ond hwn oedd y pwysicaf. Fe fyddai wedi bod yn anodd tu hwnt os nad yn amhosib i'r criw presennol - yn chwaraewyr a hyfforddwyr - i ddod dros golled agos arall. Nawr fe all Warren Gatland a'r criw edrych nôl ar hydref ddigon boddhaol ac edrych ymlaen at flwyddyn hollbwysig ond heriol tu hwnt.

Disgrifiad o’r llun,
Mi lwyddodd Cymru i atal y Springboks rhag gosod eu stamp ar y gêm ddydd Sadwrn

Cysondeb

Mae nifer o chwaraewyr wedi dod i oed - neb yn fwy na'r haneri Rhys Webb a Dan Biggar a Samson Lee sydd wedi cymryd mantell Adam Jones yn yr elfen bwysig o sefydlogi'r sgrym. Mae cyfres yr hydref wedi tanlinellu'r hyn roedden ni eisoes yn gwybod - mae Cymru nawr yn gallu herio'r goreuon yn gyson.

Wrth ddynesu at ddeg munud olaf bob prawf roedden ni ar y blaen i'r tri mawr ac fe aeth Cymru wirioneddol dan groen y Crysau Duon - tîm gorau'r byd o bellter. A nawr mae gan Gymru'r un darn bach oedd yn eisiau o'u harfogaeth - mae ganddyn nhw'r profiad o wybod beth sydd ei angen i gyrraedd y nod pan mae'r pwysau 'mlaen.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Y mewnwr Rhys Webb - un o'r tô ifanc sydd wedi creu argraff yng nghyfres yr hydref

Ffîn denau

Ond byddan nhw hefyd yn sylweddoli pa mor denau yw'r ffîn rhwng llwyddo a methu ac mae angen datblygu mwy ar yr elfennau creadigol i fynd gyda'r corfforol amddiffynnol. Fel dangosodd Seland Newydd, mae'r goreuon yn mynd i sgori ceisiau a dyw dibynnu ar giciau cosb ddim wastad yn mynd i fod yn ddigon.

Ond nid Cymru yw'r unig rai sydd wedi dal y llygad dros y mis d'wetha'. Mae'r Alban wedi gwella mas draw dan Vern Cotter, mae Iwerddon yn edrych yn dipyn o dîm dan Joe Schmidt ac, ar waetha cwpwl o ganlyniadau anffafriol, mae Lloegr dan Stuart Lancaster yn datblygu'n rym bygythiol.

Yr hen elyn

Lloegr fydd gwrthwynebwyr nesa' Cymru ar nos Wener gyntaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, sy'n addo bod yn gystadleuaeth a hanner. Efallai mai Cwpan y Byd yw'r nod mawr a'r paratoadau i gyd wedi'u hanelu tuag at hynny ond, i fi, y ffordd orau i baratoi yw drwy ennill a pharhau i ennill.

Roedd y fuddugoliaeth yn erbyn De Affrica'n amserol - gobeithio bydd hi hefyd yn arwyddocaol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Bydd llygaid Warren Gatland nawr ar Bencampwriaeth y Chwe Gwlad