Stena'n canslo llongau cyflym y Dolig
- Cyhoeddwyd

Mae cwmni llongau Stena Line wedi cyhoeddi na fydd gwasanaeth fferi cyflym yn gweithredu rhwng gogledd Cymru ac Iwerddon dros gyfnod y Nadolig eleni.
Fel arfer mae gwasanaeth cyflym yr HSS - sydd yn gweithredu dros fisoedd yr haf fel rheol - yn rhedeg am gyfnod byr er mwyn cludo teithwyr rhwng Caergybi a Dun Laoghaire dros yr ŵyl.
Mewn datganiad dywedodd y cwmni:
"Am resymau masnachol a gweithredol mae'r cwmni wedi penderfynu peidio atgyfodi'r gwasanaeth dros gyfnod byr Gŵyl y Nadolig eleni.
"Mae Stena Line ar hyn o bryd yn cynnal trafodaethau gyda harbwr Dun Laoghaire mewn perthynas â'r ddarpariaeth o wasanaethau tymhorol o longau cyflym yn 2015."
Ychwanegodd y cwmni y bydd pobl sydd eisoes wedi archebu tocyn i deithio ar wasanaeth yr HSS dros y Nadolig yn cael lle ar longau eraill sy'n gyfleus i'w trefniadau teithio nhw.