Athrawon Cemeg: Llai na 50% hefo gradd
- Cyhoeddwyd

Mae gan lai na hanner yr athrawon cemeg mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru radd yn y pwnc, yn ôl ffigyrau newydd.
Dim ond 49.8% o athrawon sydd wedi derbyn gradd yn y pwnc, sef y gyfradd waethaf dros y DU gyfan.
Daw'r ffigwr wrth i'r Gymdeithas Gemeg Frenhinol lansio ymgyrch sy'n galw am roi addysg gwyddoniaeth a chemeg o'r safon uchaf i ddisgyblion yng Nghymru.
Mae llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn cynnig hyd at £20,000 i ddenu graddedigion i fod yn athrawon yn y maes.
Yn ôl y Gymdeithas Gemeg Frenhinol mae cwymp sgôr gwyddoniaeth Cymru yn y profion PISA rhyngwladol yn dangos bod angen mwy o athrawon ag arbenigedd yn y pwnc.
Mae gan ddau draean o athrawon gwyddoniaeth yn Lloegr gymhwyster gradd.
Mae prinder yr athrawon cemeg yng Nghymru yn wahanol iawn i Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac mae'n destun pryder yn ol y gymdeithas.
Er y canlyniadau gwael ym mhrofion PISA, mewn canlyniadau TGAU, mae Cymru bellach o flaen Lloegr.
Mae'r Gymdeithas Gemeg Frenhinol am weld pob plentyn dros 14 oed yn cael gwersi cemeg gan arbenigwr yn y maes, a bod gan bob ysgol gynradd fynediad i arweinydd gwyddoniaeth sy'n arbenigo.
Dywedodd Jon Edwards o'r gymdeithas ei fod o wedi gweld budd athrawon arbenigol pan oedd o mewn addysg yn Abertawe.
"Ond nid yw llawer o fyfyrwyr gwyddoniaeth mor ffodus," meddai. "mae eu hathrawon angen mwy o gefnogaeth i fod yn hyderus a gwybodus am gemeg.
"Os ddim rydyn ni mewn perygl o ddisgyn ymhellach y tu ol i weddill y DU a llawer o wledydd o amgylch y byd."
Mae llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn cynnig cymhelliad ariannol o hyd at £20,000 i ddenu graddedigion mewn gwyddoniaeth i fod yn athrawon.
Dywedodd llefarydd: "Bydd y cymelliadau yma yn cryfhau safon Hyfforddiant Athrawon yng Nghymru drwy ddenu'r graddedigion mwyaf talentog gyda lefel uchel o hyfforddiant i ddilyn gyrfa mewn dysgu."