BBC Cymru Fyw

Wrecsam 0-0 Bristol Rovers

Published
image copyrightbbc
Roedd rhaid i Wrecsam chwarae hefo 10 dyn tra bod Bristol Rovers wedi gorfod chwarae heb olwr cydnabyddedig mewn gêm gyfartal ar y Cae Ras.
Cafodd Rob Evans ei yrru o'r cae i'r Dreigiau ar ddiwedd yr hanner cyntaf am dacl wael.
Roedd rhaid i amddiffynnwr yr ymwelwyr symud i'r gôl ar ôl i'w golwr arferol Steve Mildenhall gael anaf yn yr hanner cyntaf.
Er y newid rhwng y pyst a'r cerdyn coch, nid oedd yr un o'r timau yn gallu manteisio, a di-sgor oedd hi ar ddiwedd y gêm.
Mae Wrecsam yn parhau yn y 12fed safle yn y Gyngres.