Heddlu gwrth-derfysgaeth yn archwilio dau adeilad yn y gogledd
- Cyhoeddwyd

Eisoes mae Heddlu Llundain wedi arestio pump ac wedi cael caniatâd i'w holi ymhellach.
Mae'r heddlu gwrth-derfysgaeth yn archwilio dau adeilad yng ngogledd Cymru fel rhan o ymchwiliad ehangach.
Eisoes mae Heddlu Llundain wedi arestio pump yn ne-ddwyrain Lloegr ac wedi cael caniatâd i'w holi ymhellach.
Nos Sul am 23:30 stopiodd yr heddlu gwrth-derfysgaeth gar ym mhorthladd Dover.
Cafodd dyn 33 oed a dyn 43 oed eu harestio ar amheuaeth o droseddau yn erbyn y Ddeddf Derfysgaeth.
Wedyn ddydd Llun am 03:45 cafodd dyn 24 oed a dyn 40 oed eu harestio yn nwyrain Llundain ar amheuaeth o droseddau yn erbyn y Ddeddf Derfysgaeth.
Cafodd y pumed dyn, sy'n 28 oed, ei arestio ym mhorthladd Dover am 08:30.
Mae'r heddlu wedi chwilio pedwar adeilad yn nwyrain Llundain ac un yn ne Llundain.