Darganfod corff dyn ger clwb golff yn Abercynon
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu yn ymchwilio wedi i gorff dyn gael ei ddarganfod ar dir comin ger Cwrs Golff Whitehall yn Abercynon, Rhondda Cynon Taf.
Cafodd y corff - sydd ddim wedi cael ei adnabod eto - ei ddarganfod gan aelod o'r cyhoedd tua 19:00 nos Fawrth.
Yn dilyn y darganfyddiad, cafodd rhan o'r ffordd gerllaw'r A4054 ei chau, lôn sy'n arwain at westy Llechwen Hall.
Does dim esboniad am y farwolaeth hyd yma, yn ôl yr heddlu.
Bydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal ar y corff i geisio darganfod achos y farwolaeth.
Ddydd Mercher roedd swyddogion arbenigol yn archwilio'r safle, sy'n agos iawn at y ffordd sy'n arwain at y clwb golff. Cafodd hofrennydd yr heddlu hefyd ei defnyddio i archwilio'r safle yn ehangach.
Mae'r ardal dan sylw'n boblogaidd ar gyfer cerdded gyda chŵn.
Meddai'r Ditectif Uwch-arolygydd Paul Hurley: "Ar hyn o bryd dydyn ni ddim yn gwybod beth achosodd y farwolaeth.
"Mae'n ddyddiau cynnar o ran yr ymchwiliad, ac rydyn ni'n awyddus i glywed gan unrhyw un a oedd yn yr ardal ddoe. Gallan nhw fod â gwybodaeth bwysig heb wybod hynny."
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda Heddlu De Cymru ar 101, neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.