Galw am gymorth ar ddydd Sadwrn y busnesau bach
- Cyhoeddwyd

Mae cynhorwyr yn Wrecsam wedi galw ar bobl i gefnogi masnachwyr canol tref Wrecsam ar Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach.
Nod y diwrnod, ar Rhagfyr 6, yw hybu busnesau bach trwy annog pobl i siopa'n lleol a chefnogi'r busnesau yn eu cymunedau.
Mae nifer o ddigwyddiadau wedi eu trefnu gan gynnwys Siôn Corn yn ei groto ym Marchnad y Bobl, corau a chantorion, stondinau siopau lleol, siopau un-dydd, ffair i blant a llwybr jig-so o amgylch y dref.
Bydd rhaglen lawn o'r digwyddiadau a map ar gael gan y busnesau sy'n cymryd rhan a gwirfoddolwyr sy'n helpu ar y diwrnod.
Dywedodd Nigel Lewis, Cadeirydd Fforwm Canol y Dref ac un o drefnwyr y digwyddiad: "Mae Grŵp Busnesau Wrecsam, Ffederasiwn y Busnesau Bach a sawl grŵp gwirfoddol arall wedi dod ynghyd i gynnal y digwyddiad arbennig hwn yn Wrecsam.
"Mae Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn argoeli i fod yn ddiwrnod gwych ac edrychaf ymlaen at weld cymaint o bobl yn mwynhau'r hyn sydd ar gael yng nghanol y dref."
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard: "Mae masnachwyr canol y dref wedi gweithio'n galed iawn er mwyn cynnig diwrnod arbennig iawn i siopwyr fwynhau.
"Mae gennym nifer o fasnachwyr annibynnol yn Wrecsam sy'n cynnig profiad siopa unigryw.
"Rydw i'n annog cymaint o bobl â phosib i ddod i ganol y dref a chael golwg ar yr hyn sydd ar gael."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Medi 2012
- Cyhoeddwyd17 Medi 2012