Cwest: Cleifion yn gwybod am lid yr ymennydd

  • Cyhoeddwyd
Robert Stuart a Darren Hughes
Disgrifiad o’r llun,
Dyma oedd trawsblaniad cyntaf Robert Stuart, ond trydydd Darren Hughes

Dywedwyd wrth ddau ddyn a fu farw ar ôl trawsblaniadau arennau cyn eu llawdriniaeth bod y rhoddwr wedi marw o lid yr ymennydd, clywodd cwest.

Dywedodd Usman Khalid o Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd bod y ddau wedi cael cyfle i wrthod y llawdriniaeth.

Rhoddwyd arennau oedd wedi eu heintio â llyngyr parasitig sy'n achosi llid yr ymennydd i Robert "Jim" Stuart a Darren Hughes.

Heriodd gweddw Mr Stuart, Judith, dystiolaeth Mr Khalid oddi ar lawr yr ystafell llys, gan ofyn iddo "ddweud y gwir".

Clywodd y cwest hefyd nad oedd unrhyw achos o haint gan y llyngyr erioed wedi cael ei ganfod a'i drin yn llwyddiannus.

Nid oedd achos y llid yr ymennydd, a oedd hefyd wedi lladd y rhoddwr, yn hysbys cyn i'r trawsblaniadau ddigwydd a dim ond wedi archwiliadau post mortem ar Mr Stuart a Mr Hughes y cafwyd deiagnosis.

'Cyfle i wrthod'

Dywedodd Mr Khalid ei fod wedi egluro i'r dynion bod y risg o drosglwyddo llid yr ymennydd drwy drawsblaniadau yn isel.

Dywedodd wrth y cwest: "Mae pob claf yn cael y cyfle i wrthod unrhyw weithdrefn lawfeddygol. Nid yw'n cael ei gorfodi arnynt."

Dywedodd Mr Khalid ei bod wedi mynd drwy'r weithdrefn caniatâd gyda Mr Stuart, 67, o Gaerdydd, ac fe alwodd Mr Stuart yn ddyn deallus gyda gafael da o'r broses.

Dywedodd hefyd bod llawfeddyg trawsblaniad ymgynghorol Argiris Asderakis wedi dweud wrth Mr Stuart bod y rhoddwr wedi derbyn cwrs o wrthfiotigau bum niwrnod cyn ei farwolaeth a bod trafodaeth fanwl am y risgiau wedi bod.

Ffurflen caniatâd

Clywodd y llys yr esboniwyd i Mr Hughes, 42, o Ben-y-bont ar Ogwr, bod y risg o drosglwyddo llid yr ymennydd yn isel.

"Roedd gan [Darren] allu llawn ac roedd yn deall risgiau hynny," meddai Mr Khalid. "Helpais i ef i eistedd i fyny i lofnodi'r ffurflen ac rwyf yn cofio hynny."

Roedd yn gwrth-ddweud tystiolaeth gan dad Mr Hughes, Ian, a oedd wedi dweud wrth y cwest ei fod wedi llofnodi'r ffurflen ganiatâd ar ran ei fab oherwydd bod cyflwr niwrolegol Mr Hughes yn ei atal rhag wneud hyn ei hun.

Dywedodd Mr Khalid: "Fe wnaeth Darren lofnodi'r ffurflen; a roedd yn frwydr. Does dim mater mewn llawdriniaeth os na all claf lofnodi, er enghraifft rydym yn aml yn cael cleifion sy'n rhannol ddall neu'n ddall."

Dywedodd wrth y cwest, pe na allai Mr Hughes fod wedi llofnodi'r ffurflen, byddai wedi gofyn i dyst ei lofnodi ar ei ran.

Dywedodd Mr Khalid fod Mr Hughes hefyd wedi llofnodi ffurflen ganiatâd ar gyfer astudiaeth ymchwil y diwrnod canlynol, ac nid oedd yn cofio ei dad yn bod yno ar y pryd.

Pan basiwyd copïau o'r ffurflen i aelodau o deulu Mr Hughes yn yr oriel gyhoeddus, dywedon nhw: "Nid hwnnw yw ei lofnod".

Disgrifiad o’r llun,
Roedd yr arennau a roddwyd wedi'u heintio â llyngyr parasitig

Ar ôl gorffen ei dystiolaeth, siaradodd Mr Khalid â'r oriel gyhoeddus oedd yn llawn o berthnasau'r ddau ddyn.

Dywedodd: "Mae'n hynod ddrwg gen i am eich colled."

Atebodd gweddw Mr Stuart, Judith: "Wel, felly dwedwch y gwir."

Dywedodd Brendon Healy, ymgynghorydd mewn microbioleg a chlefydau heintus i Iechyd Cyhoeddus Cymru, bod popeth wedi cael ei wneud i achub y dynion.

"Nid oes unrhyw un wedi goroesi'r haint hwn. Mae'n afresymol i feddwl y gallem fod wedi cyrraedd y diagnosis," meddai wrth y cwest.

Esboniodd mai ffocws eu sylw wrth geisio gwneud diagnosis oedd safle'r haint - yr ymennydd - gan bod yr arennau yn gweithio.

"Roeddem wedi methu, tra eu bod yn fyw, i wneud diagnosis," meddai Mr Healy.

Dywedodd wrth y teuluoedd: "Mae'n hynod ddrwg gennym am yr hyn a ddigwyddodd. Gwnaethom ein gorau, ac mae'n ddrwg gen i."

'Bwriadau gorau'

Dywedodd Athro o Gaergrawnt wrth y cwest nad yw'n disgwyl gweld y math o haint a laddodd y ddau glaf byth eto.

Dywedodd Christopher Watson o adran llawdriniaeth Prifysgol Caergrawnt wrth y llys ei fod yn teimlo bod y trawsblaniadau wedi cael eu cynnal gyda'r bwriadau gorau ar gyfer y cleifion.

Dywedodd yr Athro Watson: "Dw i'n amau nawelwn ni hyn fyth eto. Gallai neb fod wedi rhagweld hyn."

Dywedodd ei fod yn "bryder" bod y rhoddwr wedi bod yn yr ysbyty am naw niwrnod heb unrhyw arwydd o welliant cyn iddo farw, er gwaethaf iddo dderbyn triniaeth.

Ychwanegodd: "Rwy'n siwr y gwnaeth Mr Asderakis y trawsblaniadau hyn gyda'r bwriadau gorau i'r ddau glaf gael canlyniad llwyddiannus heb unrhyw fwriad o achosi unrhyw fath o niwed."

"Gallaf ddeall sut y daeth at ei benderfyniad, nid dyna'r un y byddwn i wedi cymryd."

Dywedodd yr Athro Watson ei fod yn "llawn edmygedd o'r gofal pan gafodd y diagnosis ei wneud," a'r ymdrechion a wnaed ar draws y DU ac yn yr Unol Daleithiau i ddod o hyd i achos yr haint.

Mae'r cwest yn parhau.