Achub gwasanaethau lleol yw nod elusen
- Cyhoeddwyd

Mae elusen menter wledig y Plunkett Foundation wedi lansio rhaglen gymorth i dargedu cymunedau yng ngogledd Cymru i'w helpu i achub gwasanaethau lleol.
Yn ôl yr elusen, mae siopau, tafarndai, llyfrgelloedd a gwasanaethau eraill o dan fygythiad.
Nod y Plunkett Foundation yw cynnig cyngor arbenigol, mentora, cyfleoedd rhwydweithio, offer ac adnoddau i gymunedau.
Yn y DU heddiw, mae 318 o siopau sy'n berchen i'r gymuned (16 ohonynt yng Nghymru) a 30 o dafarndai cydweithredol yn masnachu - gyda 6 ohonynt yng Nghymru.
Dilyn ôl troed
Mae'r elusen yn gobeithio ysbrydoli cymunedau i ddilyn ôl troed pentrefi fel Llanarmon-yn-Iâl yn Sir Ddinbych a achubodd eu siop bentref a thafarn lleol.
Bellach mae'r gymuned yn berchen ar y ddau wasanaeth fel mentrau cymunedol, sy'n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr ac yn gweithredu fel canolfannau cymdeithasol allweddol.
Dywedodd Peter Couchman, Prif Weithredwr Plunkett Foundation: "Mae gan ogledd Cymru rai enghreifftiau gwych o fentrau cymunedol, megis The Raven Inn a siop gymunedol Llanarmon-yn-Iâl.
"Daeth y gymuned hon, dan fygythiad colli'r ddau wasanaeth, ynghyd i'w hachub trwy gamau cydweithredol.
"Maen nhw'n enghreifftiau gwych o'r hyn y gellir ei gyflawni gan gymunedau gwledig a dymunwn alluogi i fwy o gymunedau ddilyn eu hôl troed."
Mae'r Raven Inn a siop gymunedol Llanarmon-yn-Iâl yn cynnal digwyddiad ddydd Iau gyda'r Plunkett Foundation i gynnig cyfle i gymunedau eraill gael eu hysbrydoli.