Creu 60 o swyddi gweithgynhyrchu yn Llanelli

Gestamp Llanelli Image copyright Gestamp

Mae cwmni Gestamp Tallent yn creu 60 o swyddi newydd ar safle'r cwmni yn Llanelli.

Daw'r newyddion yn rhan o fuddosoddiad o £10 miliwn gan y cwmni a llywodraeth Cymru.

Eisoes, mae gan yr adran gynhyrchu stampiau metel poeth - yr ail ledled y DU - lyfr archebion llawn am y pum mlynedd nesa', yn darparu cynnyrch i Jaguar Land Rover.

Mae'r metel yn poethi hyd at 900 gradd er mwyn cynhyrchu rhannau cryfach ac ysgafnach na'r system oer, draddodiadol.

Gwta bum mlynedd yn ôl, roedd y safle yn wynebu gorfod cau.

Yn 2011, fe brynodd Gestamp y cyfle, a chyda chymorth llywodraeth Cymru, mae 400 o bobl yn gweithio yno erbyn hyn.