Arestio pump ar amheuaeth o droseddau terfysgaeth
- Cyhoeddwyd

Mae pump o ddynion wedi eu harestio yng Nghaerdydd a'r Barri ar amheuaeth o droseddau yn ymwneud â therfysgaeth, yn ôl Heddlu De Cymru.
Cafodd y dynion eu harestio ar amheuaeth o droseddau'n ymwneud â chefnogi mudiadau sydd wedi eu gwahardd.
Cafodd y dynion, sydd rhwng 19 a 32 oed, eu harestio dan Ddeddf Terfysgaeth 2000, fel rhan o ymchwiliad gwrth-terfysgaeth ehangach dros Gymru.
Dau o'r dynion gafodd eu harestio yw Rofi Islam a Sajid Idris.
Nid yw'r arestio yn gysylltiedig ag achosion dau ddyn gafodd eu cyhuddo ddydd Mercher.
Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru, Nikki Holland: "Mae Heddlu De Cymru yn falch o gael cysylltiadau gyda'n cymunedau lleol ac mae eu cydweithrediad yn hanfodol i sicrhau ein bod ni'n taclo radicaliaeth ac eithafiaeth yn effeithiol gyda'n gilydd.
"Rydw i'n ymwybodol bod sylw diweddar y wasg wedi amlygu pryderon ond hoffwn ddiolch a sicrhau'r cyhoedd bod y cysylltiadau sydd gennym ni gyda'n cymunedau crefyddol yn gryf a chynhyrchiol."
Ychwanegodd ei bod yn parhau i ofyn i'r cyhoedd fod yn wyliadwrus, a chysylltu gyda'r heddlu os oedd unrhyw amheuon.