Agor cwest wedi marwolaeth Matthew Williams yn Argoed

  • Cyhoeddwyd
Matthew Williams
Disgrifiad o’r llun,
Nid yw achos marwolaeth Matthew Williams wedi ei gadarnhau eto

Mae cwest i farwolaeth dyn wnaeth ymosod ar ddynes 22 oed yn Argoed yn Sir Caerffili wedi ei agor a'i ohirio fore Iau.

Bu farw Matthew Williams tra dan warchodaeth yr heddlu ar ôl cael ei arestio wrth ymosod ar Cerys Yemm yn y Sirhowy Arms yn Argoed fis diwethaf.

Yn y gwrandawiad yng Nghasnewydd, clywodd Uwch Grwner Gwent, David T Bowen bod yr heddlu wedi eu galw i westy'r Sirhowy Arms am 01:23 ar fore Iau, Tachwedd 6.

Cafodd Mr Williams ei arestio ond fe aeth yn ddiymateb yn y fan a'r lle.

Clywodd y cwest nad oedd modd achub Mr Williams, er ymdrechion swyddogion yr heddlu a pharafeddygon.

Er i bost mortem gael ei gynnal nid yw achos marwolaeth Mr Williams wedi ei gadarnhau, ac mae swyddogion yn aros am ganlyniadau profion pellach.

Cafodd y cwest ei ohirio tan Ebrill 3 y flwyddyn nesaf, i alluogi i ymchwiliadau barhau.

Ffynhonnell y llun, via facebook page
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Cerys Yemm, 22 oed, yn dilyn ymosodiad arni yn Argoed ger y Coed Duon.
Disgrifiad o’r llun,
Digwyddodd yr ymosodiad yn y Sirhowy Arms ym mis Tachwedd