Ysmygwyr canabis ifanc 'ag ysgyfaint rhywun 80 oed'

  • Cyhoeddwyd
Dail canabis
Disgrifiad o’r llun,
Rhybudd o gynnydd sylweddol mewn achosion difrifol o glefyd yr ysgyfaint ymysg oedolion ifanc o achos y defnydd rheolaidd o ysmygu canabis a thybaco.

Mae arbenigwyr o Brifysgol Bangor yn rhybuddio fod Prydain ar fin gweld cynnydd sylweddol mewn achosion difrifol o glefyd yr ysgyfaint ymysg oedolion ifanc - ac fe allai hyn fod o achos y defnydd rheolaidd o ysmygu canabis a thybaco.

Mae astudiaeth gan y brifysgol wedi edrych ar gleifion aeth i adran achosion brys Ysbyty Gwynedd gyda ffurf ddifrifol a datblygedig o emffysema yn gysylltiedig â'u defnydd uchel o ganabis a thybaco.

Edrychodd yr astudiaeth ar wyth claf dros gyfnod o ddwy flynedd oedd yn dangos symptomau o glefydau broncitis cronig ac emffysema. Roedd y cleifion wedi ysmygu pum sigaret canabis neu fwy y dydd am o leiaf deng mlynedd. Roedd oedran y cleifion oedd yn rhan o'r astudiaeth rhwng 35 a 48 oed.

Difrod i'r ysgyfaint

Mewn pedwar achos roedd y difrod i'r ysgyfaint yn ddigon difrifol fel bod angen therapi ocsigen, ac mae un claf yn dal i aros am drawsblaniad ysgyfaint addas yn ôl y brifysgol.

Mae ymchwilwyr yn credu mai defnydd uchel o ganabis a thybaco yw prif achos emffysema ffyrnig, yn annibynnol o unrhyw dueddiadau genetig cleifion.

Mae astudiaethau eraill ar draws y byd hefyd wedi dechrau edrych ar emffysema difrifol mewn pobl ifanc i ganol oed sy'n defnyddio cyffuriau anghyfreithlon.

Yn Awstralia mae ysmygu canabis trwy ddyfais peipen 'bong' wedi arwain at gynnydd yn y cyflwr y mae arbenigwyr nawr yn ei alw'n 'ysgyfaint bong.'

Yn ôl arbenigwyr, gall ysgyfaint gael ei difrodi'n gynt mewn defnyddwyr canabis sy'n ysmygu'r cyffur gyda thybaco oherwydd:

  • Yn aml gall sigaret canabis gael ei ysmygu heb hidlwr neu 'filter'- gan gynyddu peryglon gan gemegau niweidiol tybaco a chanabis;
  • Mae ysmygwyr canabis yn dueddol o anadlu mwg yn hirach - gyda'r corff yn cadw mwy o'r cynnwys cemegol - gan gynyddu lefelau gronynnau mwg a charbon monocsid yn yr ysgyfaint;
  • Mae'r llwyth cemegol trwm yn cael ei ryddhau ar dymheredd andwyol posibl;
  • Mae canabis modern yn llawer cryfach gyda photensial uwch i ddifrodi ysgyfaint.

'Tebycach i 80 oed'

Meddai Dr Damian Mckeon, ymgynghorydd mewn meddygaeth anadlol yn Ysbyty Gwynedd, ac Uwch Ddarlithydd Anrhydeddus ym Mhrifysgol Bangor:

"Rydym yn gweld pobl ifanc ar y wardiau gydag ysgyfaint sy'n ymdebygu i rai pobl 80 oed ar ôl llai na degawd o ysmygu canabis a thybaco.

"Roedd ein hastudiaeth ni mewn ardal wledig o ogledd Cymru, ond credwn fod llawer mwy nag y gwyddwn amdanynt. Mae yna gymunedau o bobl ifanc ar draws y Deyrnas Unedig, yn aml yn byw mewn ardaloedd o amddifadedd a diweithdra, sy'n ysmygu spliffs yn rheolaidd. Maen nhw'n rhoi eu hiechyd a'u dyfodol mewn perygl mawr."

Ychwanegodd: "Rydym angen astudiaeth fanwl ar fyrder ar draws y DU sy'n dadansoddi'r darlun cenedlaethol o ddefnydd canabis a chlefyd yr ysgyfaint."

Dywedodd Dr Bernard Higgins, Cadeirydd Pwyllgor Gweithredol y Gymdeithas Thorasig Brydeinig, ac ymgynghorydd ysgyfaint arbenigol yn Ysbyty'r Freeman yn Newcastle:

"Mae'r astudiaeth yn ddarn bychan ond argyhoeddiadol o jig-so sy'n pwyntio at berygl real o ysmygu 'joint' yn rheolaidd.

"Dylai'r Llywodraeth fonitro'r dystiolaeth hon sydd nawr yn ymddangos yn ofalus a chymryd hyn i ystyriaeth wrth lunio polisïau cyffuriau ac ysmygu yn y dyfodol.

"Mae'n rhaid i ni wneud gymaint ag y gallwn i atal clefyd yr ysgyfaint rhag difetha bywydau cenedlaethau'r dyfodol ac mae ymgyrch addysgol arloesol yn allweddol."