Terfysgaeth: Mwy o amser i holi dyn
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu bellach wedi cael mwy o amser i holi'r dyn 19 oed a gafodd ei arestio yn dilyn cyrchoedd gwrth-derfysgaeth yng Nghaerdydd a'r Barri.
Mae'r dyn yn cael ei amau o baratoi neu gynorthwyo i baratoi gweithred derfysgol.
Mae pedwar o'r dynion eraill a gafodd eu harestio ddydd Iau, bellach wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Cafodd y dynion rhwng 19 a 32 oed eu harestio dan y Ddeddf Derfysgaeth ar amheuaeth o gefnogi sefydliadau sydd wedi eu gwahardd.
Dau o'r dynion gafodd eu harestio yw Rofi Islam a Sajid Idris.
Dywedodd yr heddlu nad oedd y cyrchoedd yn gysylltiedig ag achos dau gafodd eu cyhuddo o droseddau ddydd Mercher.
Dywedodd yr heddlu fod y cyrchoedd yng Nghaerdydd a'r Barri yn rhan o ymchwiliad ehangach dros Gymru.
Ond dywedon nhw nad oedd cysylltiad gyda'r brodyr Aseel a Nasser Muthana sydd wedi mynd i ymladd yn Syria.
Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru, Nikki Holland ei bod yn "ymwybodol" o bryderon ond gwadodd bod Caerdydd yn lle oedd yn "magu eithafwyr".
Straeon perthnasol
- 5 Rhagfyr 2014