Tân mewn tŷ: Hedfan dyn i'r ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei hedfan i'r ysbyty ym Mirmingham gyda llosgiadau difrifol ar ôl tân mewn tŷ ym Mhowys nos Wener.
Digwyddodd y tân mewn eiddo yn Nhrefyclo am oddeutu 18:30.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gorllewin a Chanolbarth Cymru yn dweud fod y tân wedi ei ddiffodd erbyn i'r diffoddwyr gyrraedd y fan.
Credir i wresogydd paraffin achosi'r tân.
Rhoddwyd therapi ocsigen i ail berson oedd wedi dioddef effeithiau mwg, ond nid oedd angen triniaeth yn yr ysbyty.
Cafodd y dyn ei hedfan i Ysbyty Y Frenhines Elisabeth ym Mirmingham mewn ambiwlans awyr.
Mae gan yr ysbyty uned losgiadau arbenigol.
Nid yw ei gyflwr presennol yn hysbys.