Corff Tinh Van Tran gafodd ei ddarganfod yn Abercynon

Abercynon
Image caption Cafodd rhan o'r ffordd sy'n arwain at Glwb Golff Whitehall ei chau wrth i'r heddlu ymchwilio

Mae dyn gafodd ei ddarganfod yn farw ar dir comin yn Abercynon wedi ei adnabod fel Tinh Van Tran o Fietnam.

Cafodd corff y dyn 41 oed ei ddarganfod ger Clwb Golff Whitehall am 19:00 ddydd Mawrth.

Mae Heddlu'r De wedi cadarnhau enw Mr Tran mewn gobaith y bydd ei deulu yn cysylltu gyda nhw.

Nid yw achos ei farwolaeth wedi ei gadarnhau eto, ac mae profion fforensig yn cael eu cynnal.

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Paul Hurley: "Mae angen i ni gadarnhau ei symudiadau cyn ei farwolaeth - lle roedd yn byw a beth oedd yn ei wneud.

"Rydyn ni'n credu bod ganddo gysylltiadau i'r ardal, ac rydyn ni'n gobeithio y bydd rhywun sydd â gwybodaeth yn cysylltu â ni."

Straeon perthnasol