Bucuresti 10-37 Dreigiau

Dreigiau Image copyright Huw Evans picture agency

Mae gobeithion y Dreigiau yn y Cwpan Her dal yn fyw ar ôl buddugoliaeth dros Bucuresti yn Romania.

Y tîm cartref aeth ar y blaen yn gynnar yn y gêm drwy gais Sean Morrell.

Ond sgoriodd Ashley Smith gais, a daeth wyth pwynt o droed Rhys Jones i roi'r ymwelwyr ar y blaen erbyn yr egwyl.

Daeth ceisiau pellach gan T Rhys Thomas, James Thomas ac Andrew Coombs i sicrhau pwynt bonws i'r Dreigiau.

Mae'r fuddugoliaeth yn cryfhau lle'r Dreigiau yn yr ail safle yng ngrŵp 3.

Mae'r Dreigiau bellach tri phwynt y tu ôl i Newcastle Falcons, ar ôl iddyn nhw guro Stade Francais o 30-23 nos Wener.