Caerdydd 0-0 Rotherham
- Cyhoeddwyd

Doedd cyn chwaraewr Rotherham, Adam Le Fondre, ddim yn gallu sicrhau buddugoliaeth i'w glwb newydd ddydd Sadwrn
Mae Caerdydd wedi disgyn i'r nawfed safle yn y Bencampwriaeth yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn Rotherham United brynhawn Sadwrn.
Mewn gêm oedd yn brin o gyfleoedd i'r ddau dîm roedd rhaid i olwr Rotherham, Adam Collin, wneud arbediad da i gadw ergyd Federico Macheda allan o'r rhwyd.
Daeth Macheda ymlaen fel eilydd yn lle Kenwyne Jones yn yr ail hanner.
Yn fuan wedyn roedd cyfle da Adam Revell i roi Rotherham ar y blaen ond fe beniodd y bêl yn erbyn y trawst.
Dyma'r tro cyntaf i'r Adar Gleision fethu ac ennill yn Stadiwm y Ddinas mewn chwe gêm.
Mae Rotherham yn symud i'r 21ain safle.