BBC Cymru Fyw

Gleision 24-14 Gwyddelod Llundain

Published
image copyrightHuw Evans picture agency
Mae'r Gleision wedi ennill eu trydedd buddugoliaeth yn y Cwpan Her wrth iddyn nhw guro Gwyddelod Llundain yng Nghaerdydd.
7-7 oedd hi erbyn yr egwyl wrth i geisiau ddod gan Geoff Cross a Richard Smith i'r tîm cartref.
Lloyd Williams sgoriodd y cais hollbwysig wedi 63 munud o chwarae, wrth iddo orffen symudiad gorau'r gêm.
Cafodd y symudiad hwnnw ei ddechrau gan Cory Allen, cyn i Smith fwydo Williams i groesi'r llinell.
Sgoriodd Kristian Dacey gais i sicrhau'r canlyniad, a sicrhau na chafodd cais gosb hwyr i'r Gwyddelod effaith ar y gêm.