Wrecsam 3-1 Maidstone
- Cyhoeddwyd

Llwyddodd Wrecsam i wrthsefyll perfformiad cryf gan 10 dyn Maidstone yn ail hanner eu gêm ar y Cae Ras i sicrhau eu lle yn nhrydedd rownd y Cwpan FA.
Manny Smith saethodd i'r rhwyd i roi'r Dreigiau ar y blaen yn gynnar yn y gêm, cyn i Aaron Simpson gael ei yrru o'r cae am dacl ar Wes York yn y cwrt cosbi.
Andy Bishop rwydodd y gic o'r smotyn i ddyblu'r fantais.
Daeth yr ymwelwyr yn ôl yn gryfach yn yr ail hanner, a sgoriodd Alix Fisher wedi awr o chwarae.
Ond Bishop rwydodd eto yn y munudau olaf i sicrhau'r fuddugoliaeth a sicrhau lle ei dîm yn y rownd nesaf.