Achub dau yn eu 70au o Fwynglawdd Bwlch Glas, Ceredigion

Achub Image copyright ASART

Mae dau berson yn eu 70au wedi eu hachub ar ôl mynd i drafferth mewn siafft hen weithfeydd plwm yng Ngheredigion.

Dywedodd Tîm Chwilio ac Achub Aberdyfi eu bod nhw wedi cael eu galw i Fwynglawdd Bwlch Glas am tua 17:50 ddydd Sadwrn.

Roedd rhaid i'r Gwasanaeth Tan ac Achub a chriwiau achub eraill ddefnyddio rhaffau i ryddhau'r ddau.

Dywedodd y Gwasanaeth Tan ac Achub bod un o'r dynion wedi cael ei drin gan y Gwasanaeth Ambiwlans, a'i fod mewn "cyflwr da".

Dywedodd Tîm Achub Aberdyfi bod y ddau wedi gallu cerdded i lawr y bryn ar ôl cael eu hachub, a bod y gwaith ar ben erbyn 01:00 fore Sul.

Image copyright Gwyn Jenkins