Ulster 24-9 Scarlets
- Published
image copyrightPress Eye
Bydd rhaid i'r Scarlets ennill eu tair gêm olaf yng Nghwpan Ewrop os ydyn nhw am gyrraedd y rownd nesaf, wedi colled yn erbyn Ulster nos Sadwrn.
Aeth y Scarlets ar y blaen yn gynnar yn y gêm wedi cic gosb gan Rhys Priestland. Ond daeth cais gyntaf i Ulster ar ôl i flaenasgellwr y Scarlets, James Davies gael cerdyn melyn.
Darren Cave sgoriodd gyntaf cyn i Ruan Pienaar ychwanegu ail.
Fe wnaeth Priestland leihau'r bwlch gyda dwy gic gosb arall, ond aeth Tommy Bowe a Rory Best dros y linell i sicrhau buddugoliaeth gyfforddus i Ulster.