Owen Smith: 'Pryderon' am ddatganoli pwerau treth
- Cyhoeddwyd

Byddai Cymru wedi methu allan ar £1 biliwn petai'r llywodraeth wedi bod yn gyfrifol am gasglu peth o'i chyllideb drwy drethi dros y pedair blynedd diwethaf, yn ôl llefarydd Llafur ar Gymru.
Dywedodd Owen Smith wrth raglen Sunday Politics Wales y BBC y dylai fod "pryderon" am gynlluniau i ddatganoli mwy o bwerau treth, wedi lleihad yn faint o drethi mae Cymru wedi ei gasglu.
Byddai Mesur Cymru llywodraeth San Steffan yn rhoi rheolaeth dros rai trethi i Fae Caerdydd, gan gynnwys rheolaeth rannol dros dreth incwm wedi refferendwm.
Daw sylwadau Mr Smith ar ôl i'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, ddweud y byddai ond yn derbyn pwerau tebyg i'r Alban os yw Cymru'n cael gwell setliad ariannol gan San Steffan.
'Cwymp trychinebus'
Dywedodd Mr Smith mai'r dasg bwysicaf oedd sicrhau nad yw Cymru'n cael ei "thangyllido", a'i fod am i Gymru gael yr un pwerau a'r Alban.
"Byddai yna i bobl Cymru benderfynu os ydyn ni am dderbyn y pwerau yna," meddai.
Ychwanegodd bod lefel y dreth sy'n cael ei gasglu dros y DU wedi gweld "cwymp trychinebus dros y pum mlynedd diwethaf", a bod lefel Cymru yn is na gweddill y DU.
"O ystyried y ffigyrau gafodd eu rhoi i ni yn y datganiad hydref, byddai Cymru wedi gweld colled o tua £1bn petawn ni wedi cymryd cyfrifoldeb, petawn ni wedi cael ein gorfodi i gymryd cyfrifoldeb, am bwerau treth incwm yn 2010."
Dywedodd bod hynny yn dangos nad yw mor hawdd i Gymru gymryd y cyfrifoldeb yna, a hefyd am y "risg" y mae gofyn i Gymru ei chymryd.
Mae'r blaid Lafur wedi comisiynu ymchwil sy'n awgrymu bod y trethi sydd wedi eu casglu dros gyfnod y senedd hon £66bn yn llai na'r rhagolygon.
Mae ffigyrau gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi amcangyfrif faint y byddai llywodraeth Cymru yn ei dderbyn o drethi incwm gyda'r pwerau newydd.
Mae'r swyddfa yn amcangyfrif y byddai gan lywodraeth Cymru reolaeth dros £2.2bn o drethi yn y flwyddyn ariannol hon, gan godi i £2.8bn erbyn 2019/20.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2014