West Ham 3-1 Abertawe
- Cyhoeddwyd

Sgoriodd Andy Carroll ddwywaith wrth i West Ham guro 10 dyn Abertawe brynhawn Sul.
Wilfried Bony roddodd yr ymwelwyr ar y blaen wedi 20 munud, gan rwydo heibio Adrián o groesiad Jefferson Montero.
Peniodd Carroll i'r rhwyd i sgorio ei gôl gyntaf ers mis Mawrth ac unioni'r sgôr cyn yr egwyl.
Saethodd Bony yn erbyn y trawst ar ddechrau'r ail hanner, ond Carroll oedd yr arwr eto wrth iddo benio i'r rhwyd o gic gornel Stewart Downing.
Aeth y gêm o ddrwg i waeth i Abertawe wedyn, pan gafodd y golwr Lukasz Fabianski gerdyn coch am dacl ar Diafra Sakho y tu allan i'r cwrt cosbi.
Gerhard Tremmel ddaeth i'r cae yn ei le, ond doedd o methu a chadw ergyd bwerus Sakho allan i'r drydydd gôl, wrth i West Ham sicrhau'r fuddugoliaeth, a symud i'r trydydd safle yn yr Uwch Gynghrair.
Mae Abertawe yn yr wythfed safle wedi'r golled.