Leighton Andrews yn 'siomedig' gydag awdurdodau Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweinidog Llywodraeth Leol wedi mynegi ei "siomedigaeth" gyda rhai o awdurdodau lleol Cymru am fethu ag ymateb i ymgynghoriad y Llywodraeth ar ad-drefnu llywodraeth leol.
Cafwyd 170 o ymatebion gan gyfrannwyr ac aelodau'r cyhoedd i'r ymgynghoriad, ond dim ond 11 o gynghorau a gyflwynodd unrhyw awgrymiadau neu syniadau.
Mae chwech o'r 22 cyngor wedi enwi'r partneriaid y bydden nhw'n fodlon uno gyda nhw.
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cwtogi nifer y cynghorau i 12 drwy gyfres o uno gwirfoddol.
Ond mae Leighton Andrews wedi awgrymu ers hynny y gallai'r broses ymestyn ymhellach, gan ddweud bod rhai yn y Blaid Lafur am weld cyn lleied â chwech awdurdod.
'Dweud dim'
Roedd y dyddiad cau wedi pasio am hanner nos, Tachwedd 28, gyda dim ond tri chynnig o uno wedi'u cyflwyno gan y cynghorau eu hunain - Conwy a Sir Ddinbych; Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr; a Blaenau Gwent a Thorfaen.
Mae Cyngor Sir Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Abertawe hefyd yn ymchwilio i'r posibilrwydd o uno.
Dywedodd Mr Andrews: "Rwy'n siomedig fod hanner awdurdodau lleol Cymru heb ddim i'w ddweud am sut yr ydym yn siapio llywodraeth leol yng Nghymru - wedi'r cyfan, eu dyfodol, a dyfodol eu cymunedau lleol sydd dan drafodaeth.
"Rwy'n glir ynghylch fy uchelgais ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru.
"Rwyf am weld cynghorau sy'n ymgysylltu â'u cymunedau ac sy'n cynnig cysondeb o ran perfformiad cryf, democratiaeth gadarn a llywodraethu da."
Fe fydd deddf yn mynd gerbron y Cynulliad y flwyddyn nesaf, gan ganiatau i gynhorau uno'n wirfoddol.
Ond mae Llafur yn cynnig mwy o ddeddfu fyddai'n gorfodi cynghorau i uno wedi etholiad nesaf y Cynulliad yn 2016.
Mae cynghorau wedi apelio am fwy o amser a mwy o eglurder ynglyn â phwy fydd yn talu am yr ad-drefnu.
Straeon perthnasol
- 30 Tachwedd 2014
- 29 Tachwedd 2014
- 25 Tachwedd 2014
- 9 Medi 2014
- 20 Ionawr 2014