Pleidlais cyllideb Cymru
- Cyhoeddwyd
Bydd aelodau'r cynulliad yn pleidleisio ddydd Mawrth ar gyllideb llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Mae'r gyllideb - gyda gwariant o £15.3 biliwn - yn sicr o gael sêl bendith mwyafrif o ACau ar ôl i Lafur ddod i gytundeb gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae llywodraeth Cymru yn bwriadu buddsoddi £425 miliwn yn ychwanegol yn y gwasanaeth iechyd.
Ond oherwydd bod yr arian sy'n cael ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru o'r Trysorlys yn llai ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf fe fydd yna doriadau i adrannau eraill.
Bydd awdurdodau lleol yn derbyn £192 miliwn yn llai, a'r adran addysg a sgiliau £28 miliwn yn llai.
Mae cyfanswm cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16 yn £15.33 biliwn, cwymp o gyllideb y flwyddyn flaenorol, oedd yn £15.37 biliwn.
Bydd y gyllideb yn derbyn cefnogaeth y Cynulliad o ganlyniad i gytundeb dwy flynedd rhwng Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Straeon perthnasol
- 30 Medi 2014
- 30 Medi 2014