BBC Cymru Fyw

Wrecsam yn wynebu taith i Stoke

Published
image captionMae Andy Bishop (dde) wedi sgorio ym mhob rownd o'r Cwpan y tymor hwn

Mae rheolwr Wrecsam Kevin Wilkin wedi disgrifio fel ffantastig y newyddion y bydd ei dîm yn wynebu Stoke o'r Uwchgynghair yn rownd nesa Cwpan FA Lloegr.

Fe aeth enw Wrecsam i'r het ar ôl iddynt guro Maidstone 3-1 ddydd Sadwrn yn yr ail rownd.

Wrecsam yw un o ddim ond wyth tîm o'r tu allan i'r gynghrair sy'n parhau yn y gystadleuaeth.

Fe fyddant yn wynebu Stoke rhwng Ionawr 3-6.

"Mae'n newyddion gwych i ni, ac rydym yn edrych ymlaen at y gem," meddai Wilkin.

Rheolwr Stoke yw'r Cymro Mark Hughes sy'n enedigol o Riwabon.

Yn yr un gystadleuaeth fe fydd Abertawe yn chwarae Oxford United neu Tranmere oddi cartref, tra bydd Caerdydd yn croesawu Colchester United.