Atebion - Cefn Pen Pwy?
- Cyhoeddwyd

Os nad ydych chi'n gwybod yr ateb, yna yn sicr mi gewch chi e erbyn Heno

Angharad Mair yw seren gyntaf y cwis
Faint o droseddu sy' 'na pan mae hwn wedi troi ei ben?
Y dyfarnwr rygbi rhyngwladol Nigel Owens
Pwy oedd yn taro'r nodau uchel gyda'r cwrls yma, dwedwch?
Shân Cothi sy'n berchen ar y mwng mawr coch
Wel dyna chi lun digri-fwr
Tudur Owen: sydd yr un mor flewog o'r blaen
Adeg y rygbi, a yw'r cyflwynydd yma'n cefnogi Cymru neu Iwerddon?
Y gyflwynwraig Sarra Elgan (sydd yn briod gyda'r hyfforddwr Gwyddelig Simon Easterby)
Pwy yw'r gŵr bonheddig?
Y darlledwr Roy Noble
Ym mha dymor oedd yr haul yn gwenu?
Heulwen Haf sydd yn goleuo'n diwrnod
Cefn pen pwy oedd hwn ys gwn i? Roedd rhaid i ni gael y cliw ma'i odli!
Oeddech chi'n nabod y bardd o'i weld o'r cefn? Wel ie, Rhys Iorwerth, diolch i'r drefn! (ymddiheuriadau i feirdd go iawn!)
Lle mae'r band yng ngwallt y gyflwynwraig a'r gantores hon?
Caryl Parry Jones, heb y band!
Beth fydd eich sgôr terfynol ys gwn i?
Cyflwynydd BBC Radio Wales a Final Score, Jason Mohammad