Llong fwy ar Fôr Iwerddon
- Cyhoeddwyd
Yn gynnar yn 2015, fe fydd llong fwy o lawer yn morio rhwng Caergybi a Dulyn.
Bydd y 'Stena Superfast X' â'r gallu i gario 1,200 o deithwyr rhwng Cymru ac Iwerddon.
Golyga hyn bod modd cludo deirgwaith yn fwy o deithwyr ar ei bwrdd na'r gwasanaeth presennol.
Bydd lle i ddwywaith yn fwy o geir ar y llong newydd hefyd.
Mae bron i 2km o heolydd ar fwrdd y llong i gludo cerbydau o bob math, a bydd lle i 660 o geir arni.
Bydd y llong newydd yn disodli'r Stena Nordica sydd â lle i 400 o bobl a 300 o geir.
Ar fwrdd y llong newydd, bydd nifer o siopau, bariau, tai bwyta a llefydd i ymlacio a chael paned.
Mae hyn yn rhan o fuddsoddiad o £250 miliwn gan gwmni Stena dros y bum mlynedd diwethaf.
Ar hyn o bryd mae'r Stena Nordica yn rhedeg bedair gwaith mewn 24 awr a bydd y llong newydd yn dilyn yr un amserlen.
Wythnos diwethaf, fe gyhoeddodd cwmni Stena bod teithiau ar long yr HSS, sef y gwch cyflym, wedi eu canslo dros gyfnod y Nadolig.