Cyngor Sir Ddinbych yn cymeradwyo mwy o doriadau

  • Cyhoeddwyd
Sir Ddinbych
Disgrifiad o’r llun,
Bu cynghorwyr Sir Ddinbych yn trafod y toriadau diweddara' mewn cyfarfod ddydd Mawrth

Mae cynghorwyr yn Sir Ddinbych wedi pleidleisio o blaid cyfres arall o doriadau, fydd yn arwain at arbed £17 miliwn dros y ddwy flynedd nesa'.

Ar ôl cytuno ar werth £5.4 miliwn o doriadau yn yr hydref, mae'r cyngor nawr wedi cymeradwyo cynlluniau i arbed £4.6 miliwn yn ychwanegol.

Roedd undeb Unite wedi cynnal protest yn ystod y cyfarfod, gan ddadlau nad oedd y cyngor wedi ymgynghori digon ynghylch y cynlluniau.

Ymhlith y toriadau, fydd 'na ddim mwy o arian yn cael ei dalu i sinema a chanolfan gelfyddydau'r Scala ym Mhrestatyn. Bydd y cyllid o £200,000 ar gyfer camerâu cylch cyfyng hefyd yn dod i ben, yn ogystal â'r £103,000 sy'n cael ei wario ar grwpiau a bandiau cerddorol mewn ysgolion, a'r grantiau i helpu teuluoedd tlotach i brynu gwisgoedd ysgol.

Fe bleidleisiodd y cyngor o 26 i 13 o blaid y toriadau, gyda dau aelod yn dewis peidio bwrw pleidlais.

Mae'r cyngor yn dal angen arbed £7 miliwn pellach yn y rownd nesa' o doriadau ym mis Chwefror.

Protest

Wrth i'r cyngor drafod eu cyllideb, bu aelodau undeb Unite, sy'n cynrychioli rhai o staff y cyngor, yn protestio'r tu allan i ganolfan y Scala.

Yn ôl yr undeb, doedd y cyngor ddim wedi ymgynghori yn ddigonol nac ychwaith wedi gwneud digon i annog trafodaeth.

Disgrifiad o’r llun,
Roedd undeb Unite yn dadlau nad oedd y cyngor wedi ymgynghori yn ddigonol ynghylch y toriadau

Dywedodd David Phillips o Undeb Unite: "Mae trigolion Prestatyn yn flin nad ydyn nhw wedi cael siawns i drafod problemau'r Scala. Ac maen nhw eisiau parhau i gael defnyddio'r ganolfan gelfyddydol yma.

"Mae'r ganolfan yn gwasanaethu'r gymuned."

Mae Dafydd Rees Owen yn diwtor yn y gwersi Cymraeg sy'n cael eu cynnal yn y Scala.

Mae'n teimlo'n gryf bod y "Scala yn bwysig i'r gymuned yn gyffredinol, ac yn bwysig i ddiwylliant yr ardal.

"Dwi'm yn meddwl fod potensial llawn y ganolfan wedi ei gyrraedd, ond mi fasa cau'r lle yn drychineb."

Dywedodd llefarydd ar ran Sir Ddinbych fod y cyngor wedi annog trafodaeth helaeth ar y gyllideb.

Daeth y cyfnod ymgynghori i ben ar 28 Tachwedd.