BBC Cymru Fyw

Trafod dymchwel gwesty cofrestredig

Published
image copyrightJim Macrae
image captionFe wnaeth tân ddinistrio rhan sylweddol o Westy'r Grange yn Y Rhyl yn 2008
Bydd cynghorwyr Sir Ddinbych yn gwneud penderfyniad ddydd Mercher a fyddan nhw'n dymchwel hen westy gafodd ei ddifrodi'n sylweddol gan dân chwe blynedd yn ôl.
Roedd adeilad hanesyddol Gwesty'r Grange yn Y Rhyl, sy'n dyddio o 1840, yn adeilad cofrestredig Gradd II cyn i'r tân gael ei gynnau'n fwriadol yno ym Mawrth 2008.
Fe wnaeth hynny achosi i ran o'r to ddymchwel, ac mae'r adeilad wedi bod yn wag byth ers hynny, ac mae'n darged i fandaliaid.
Mae swyddogion Cyngor Sir Ddinbych wedi argymell cymeradwyo'r cynllun i'r ddymchwel.

Straeon perthnasol

  • Rhybudd wedi 'digwyddiadau amheus' yn Y Rhyl