Llyfr 'coll' Dylan i aros yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae Prifysgol Abertawe wedi llwyddo i gadw llyfr nodiadau - oedd yn perthyn i Dylan Thomas - yng Nghymru.
Fe gynigodd Prifysgol Abertawe £85,000 amdano mewn ocsiwn yn Sotheby's, ond fe fydd y pris terfynol yn debygol o fod tua £104,500 yn sgil costau'r ocsiwn.
Roedd y llyfr nodiadau wedi bod yn gorwedd mewn drôr am ddegawdau cyn dod i'r golwg yn ddiweddar.
Mae'n un o bump llyfr oedd yn cael eu defnyddio gan Dylan Thomas - mae'r pedwar arall ym Mhrifysgol Talaith Efrog Newydd yn Buffalo.
Fe ddisgrifiodd yr Athro John Goodby - arbenigwr rhyngwladol ar Dylan Thomas, a golygydd argraffiad canmlwyddiant ei gerddi - y llyfr fel "greal sanctaidd ysgolheigion Thomas" a'r darganfyddiad mwyaf cyffrous ers ei farwolaeth yn 1953.
Jeff Towns, Cadeirydd Cymdeithas Dylan Thomas a pherchennog Siop lyfrau Dylan, oedd yn cynnig ar ran y Brifysgol yn yr ocsiwn.
"Mae dod â'r llyfr nodiadau coll yma - sydd mor drawiadol a theimladwy - yn ôl i Abertawe; i'w gadw yng Nghymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yn gamp aruthrol a dw i wrth fy modd i fod yn rhan fach ohono."
Fe fydd y llyfryn yn cael ei gadw yn Archifdy Richard Burton yny Brifysgol, sydd eisoes yn gartref i ddyddiaduron a phapurau eraill Burton, gafodd eu rhoi i'r Brifysgol gan ei weddw, Sally.
Dywedodd yr Athro Iwan Davies, Dirpwy Is Ganghellor Prifysgol Abertawe: "Gyda'r Brifysgol yn fan geni'r bardd, ac yn noddwr Gwobr rhyngwladol Dylan Thomas, mae'n addas ein bod wedi gallu sicrhau bod y llyfryn hwn yn aros yng Nghymru ac ar gael i ysgolheigion.
"Fe fydd y llyfr nodiadau yn ychwanegiad anhygoel i'n casgliad archifol eang a phwysig."