'Dylai bod gofal cyfrwng Cymraeg yn ddewis i gleifion'

Meddygfa
Image caption Roedd adroddiad Comisiynydd y Gymraeg yn dweud mai 28% yn unig o siaradwyr Cymraeg sy'n cysylltu â meddyg teulu, deintydd, fferyllydd ac optegydd yn y Gymraeg

Dylai pobl gael y dewis i gael eu gofal yn y Gymraeg, yn ôl y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu hymateb i adroddiad Fy Iaith, Fy Iechyd ar y Gymraeg mewn gofal sylfaenol, gafodd ei gyhoeddi gan Gomisiynydd y Gymraeg ym mis Mehefin.

Dywedodd y Gweinidog eu bod yn benderfynol o wella'r ffordd y mae'r GIG yn diwallu anghenion siaradwyr Cymraeg, ac y byddan nhw'n sicrhau bod gwasanaethau Cymraeg ar gael i gleifion.

Roedd adroddiad Comisiynydd y Gymraeg yn edrych ar y ddarpariaeth Gymraeg o fewn gofal sylfaenol, wrth siarad â meddygon teulu, deintyddion, nyrsus cymunedol, fferyllwyr ac optegwyr.

'Ymateb cadarnhaol'

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn mynd i ymateb yn gadarnhaol i'r awgrymiadau ac fe fyddan nhw'n monitro eu gweithredu drwy gynllun mewnol manwl.

Mae'r Llywodraeth eisoes wedi gosod eu fframwaith ar gyfer y gwasanaethau Cymraeg o fewn iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol, ac yn ôl y Gweinidog, mae adroddiad y Comisiynydd yn ategu at hynny.

Dadansoddiad Bethan Lewis, Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

Yr egwyddor holl bwysig medd y Gweinidog Iechyd yw mai'r NHS ddylai fod yn gofyn ym mha iaith mae person eisiau cyfathrebu yn hytrach na bod y claf yn gorfod gofyn.

Ond mae e'n dweud ei fod yn cynnig sawl mesur ymarferol er mwyn sicrhau bod y nod yna'n cael ei gyrraedd gan gynnwys hyfforddi staff ynglŷn â pharchu'r dewis am ddarpariaeth Gymraeg.

Dydy hi ddim yn syndod bod adroddiad y Comisiynydd yn dangos bod person yn fwy tebygol o gael gwasanaeth yn y Gymraeg yn y gogledd.

Ond ymhlith y degau o filedd o staff yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru mae 'na gyfran sylweddol, meddai Mark Drakeford, sy'n medru rhywfaint o Gymraeg.

Mae'n dweud bod angen eu hannog i ddefnyddio'r iaith heb boeni y bydden nhw'n cael eu gorfodi i wneud hynny ym mhob cyd-destun.

Ond pa mor ymarferol yw hyn oll?

Mae'r Gweinidog yn cydnabod nad oes modd, ar hyn o bryd, cynnig gwasanaeth i bawb yn y lle ac ar amser o'u dewis.

Ac wedyn dyna'r gost.

Image caption Dywedodd Mark Drakeford bod gwasanaethau iechyd cyfrwng Cymraeg yn un o'r "elfennau allweddol" o ddarparu gofal o safon

Does 'na ddim symiau penodol yn ei ddatganiad heddiw ond dyw e ddim yn gwadu chwaith bod angen arian i wireddu'r weledigaeth - ac mae Mark Drakeford mwy na neb yn gwybod pa mor brin yw hynny yn y Gwasanaeth Iechyd.

Mae nhw'n dweud eu bod yn ymwybodol bod llawer o bobl yn gallu cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig wrth drafod eu gofal.

Mae'r Llywodraeth felly'n gosod nod ar gyfer cleifion bregus - yn arbennig plant a phobl oedrannus - i gael y dewis i gael eu trin drwy gyfrwng y Gymraeg heb orfod gofyn amdano.

Mae Llywodraeth Cymru, GIG Cymru a'u partneriaid yn dweud eu bod am:

  • Egluro na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg
  • Sicrhau bod gwasanaethau Cymraeg ar gael i gleifion a cheisio sicrhau bod mwy o aelodau Cymraeg eu hiaith mewn timau gofal sylfaenol
  • Annog pob aelod o staff i gofnodi eu lefel sgiliau Cymraeg er mwyn cael darlun cywir o sgiliau iaith y sector gofal
  • Gwneud asesiad o'r gwasanaethau gofal sylfaenol a gynigir yn Gymraeg i siaradwyr Cymraeg;
  • Sicrhau bod y sector gofal sylfaenol yn deall dewis iaith a'r cynnig rhagweithiol drwy roi cyfarwyddyd i bob sector yn y GIG am yr hyn sy'n ofynnol.

Dywedodd yr Athro Drakeford: "Dwi'n croesawu ymholiad Comisiynydd y Gymraeg yn fawr, a'r gwaith sy'n sail i nifer o'i hargymhellion.

"Bydd hyn yn cefnogi'r newid rydyn ni i gyd eisiau ei weld o ran ei gwneud yn haws i gael gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol Cymraeg yng Nghymru.

"Mae'r gallu i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg yn un o'r elfennau allweddol o ran darparu gwasanaeth o ansawdd, yn enwedig i grwpiau agored i niwed sy'n ei chael yn haws mynegi eu hunain yn eu hiaith gyntaf.

"Mater o ddiogelwch cleifion yw hyn, yn ogystal â sicrhau urddas a pharch i gleifion Cymraeg iaith gyntaf."

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi croesawu ymateb y Gweinidog Iechyd i argymhellion ei hymholiad i wasanaethau gofal sylfaenol yn Gymraeg. Dywedodd y Comisiynydd, Meri Huws:

"Gwasanaethau gofal sylfaenol yw cyswllt cyntaf y rhan fwyaf o bobl â'r gwasanaeth iechyd. Wrth gasglu tystiolaeth gan unigolion ar gyfer yr ymholiad, daeth yn amlwg bod yna fylchau mawr yn y ddarpariaeth Gymraeg, a bod hyn yn cael effaith negyddol ar les ac urddas y claf yng Nghymru''.

Ychwanegodd Meri Huws: "Mae ymateb cadarnhaol y Llywodraeth i'r adroddiad yn rhywbeth rwy'n ei groesawu. Byddaf yn cwrdd â'r Gweinidog Iechyd yn gynnar yn y flwyddyn newydd i drafod cynllun gwaith y Llywodraeth ar gyfer gweithredu'r argymhellion er mwyn gwella profiad y claf yng Nghymru.

"Gyda'r Llywodraeth a'r sector iechyd yn gefnogol i'r argymhellion, yr hyn rhaid ei weld yn awr yw gweithredu cadarn ac i amserlen benodol er mwyn sicrhau na fydd cleifion a'u teuluoedd yn dioddef o ganlyniad i ddiffyg gwasanaeth Cymraeg yn y dyfodol."

Straeon perthnasol