Cwyn am ddarpariaeth y Gymraeg mewn meddygfa yng Ngwynedd

  • Cyhoeddwyd
Canolfan Iechyd ArdudwyFfynhonnell y llun, Google

Mae meddygfa yn Harlech wedi ei beirniadu am fethu â chynnig darpariaeth lawn i gleifion drwy gyfrwng y Gymraeg.

Dywedodd Celt Roberts o Dalsarnau ei fod wedi ymweld â Chanolfan Iechyd Ardudwy ond wedi ei siomi gan yr hyn a welodd yno.

Mae llefarydd ar ran y feddygfa wedi dweud eu bod yn llwyr gefnogol i'r iaith Gymraeg, ac yn barod i addasu eu systemau er mwyn hwyluso'r defnydd o'r iaith.

Yn ôl Mr Roberts: 'Wrth fynd i mewn drwy'r brif fynedfa yn y ganolfan iechyd yn Harlech, yr hyn sydd yn eich wynebu chi ydi'r sgrin fechan sydd yn gofyn i chi fwydo gwybodaeth i mewn amdanoch chi eich hun.

"Yr hyn sydd ar ganol y sgrin ydi'r iaith Saesneg yn amlwg. Os ydych chi am fwydo eich gwybodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg mae'n rhaid i chi chwilio ymysg yr ieithoedd eraill sydd o gwmpas mewn llythrennau llai o lawer.

"Ar y wal yn llawer uwch a llawer mwy, mae 'na sgrin arall sydd yn rhoi gwybodaeth pan mae'n bryd mynd i weld y meddyg. Wrth gwrs mae hwn eto yn uniaith Saesneg."

'Gwarthus'

Ar raglen Taro'r Post fe ddywedodd: ''Yr hyn sydd yn gwbl amlwg ydi ei bod i gyd yn gwbl estron, yn Seisnig yn llwyr, ac felly mi rydan ni fel Cymry Cymraeg lleol yn cael ein trin yn eilradd iawn a dweud y lleiaf.

"Mae'r cyfan oll sydd yn cael ei arddangos mewn sŵn a lluniau yn Saesneg. Mae'r peth yn warthus.''

Dywedodd llefarydd ar ran y feddygfa: 'Rydym yn falch iawn o wasanaethu ardal sydd gyda'r mwyafrif yn siarad Cymraeg ac fel meddygfa rydym wedi ein hymrwymo i gynnig gwasanaeth dwyieithog i'n cleifion.

"Mae unrhyw wybodaeth yr ydym yn ei gynhyrchu ein hunain yn y feddygfa fel pamffledi a llyfrau yn cael eu cynhyrchu yn ddwyieithog. Rydym wedi addasu ein systemau ffôn fel bod y Gymraeg i'w chlywed yn gyntaf ac mae staff ar y dderbynfa i gyd yn rhugl yn y Gymraeg, yn ogystal â thair o'n nyrsys a phedwar allan o chwech o'n doctoriaid."

'Prif iaith'

Ychwanegodd: "Mae'r sgrin sydd yn galluogi cleifion i gadarnhau eu bod wedi cyrraedd y feddygfa yn cynnwys y dewis o 28 iaith wahanol, yn cynnwys y Gymraeg.

"Yn anffodus, does ganddon ni ddim ffordd o allu dewis y Gymraeg fel y brif iaith ar y sgrin. Yn dilyn y pryder sydd wedi ei leisio, fe fyddwn yn cysylltu gyda'r cwmni sydd wedi gosod yr offer a gofyn os oes modd iddynt gysidro hyn fel cais i'w ddatblygu."

Dywedodd y llefarydd fod y cwmni sydd wedi gosod y system galw cleifion yn y feddygfa wedi cytuno i weithio ar fersiynau Cymraeg o enwau'r gwahanol ystafelloedd yn y feddygfa i'w dangos ar y sgrin, a'r gobaith ydi y bydd modd paratoi llais wedi ei recordio i alw cleifion yn Gymraeg.

Ar Taro'r Post, fe ddywedodd Mr Roberts fod ymateb y feddygfa i'w bryderon yn newyddion da i bawb yn lleol oedd yn defnyddio'r ganofan.