Cymeradwyo codi hyd at 15,000 o dai yn Sir Gaerfyrddin.
- Cyhoeddwyd

Mae cynghorwyr Sir Gâr wedi rhoi sêl bendith derfynol i'r Cynllun Datblygu Lleol fydd yn caniatáu hyd at 15,000 o dai newydd erbyn 2021.
Y cynllun datblygu lleol sydd yn clustnodi safleoedd ar gyfer tai a chyflogaeth, ac mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn bwriadu canolbwyntio ar bedair ardal yn benodol ar gyfer twf : Gorllewin Tref Caerfyrddin, Cross Hands, Rhydaman a Llanelli.
Roedd Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar gynghorwyr i wrthod y cynllun, ac i adeiladu tai ar sail galw lleol.
Dywedodd Cen Llwyd o Gymdeithas yr Iaith: "Er bod asesiad o effaith iaith y Cynllun yn ei gyfanrwydd, fydd dim asesiad o effaith datblygiadau unigol - sydd yn gosod y Cynllun, a'r cyngor, ar dir peryglus.
"Hefyd, rydyn ni'n disgwyl y bydd y Llywodraeth yn newid y Mesur Cynllunio i roi lle canolog i'r Gymraeg pan fyddan nhw'n ei dderbyn fis Mai - byddai hynny'n effeithio ar holl Gynlluniau Datblygu Lleol Cymru.
"Gan nad yw'r cyngor wedi derbyn y Cynllun eto, does dim rheswm pam na allai'r cyngor ohirio'r drafodaeth yma nes fis Mai. Gallan nhw ail-lunio'r Cynllun fel nad yw'n tanseilio cymunedau Sir Gaerfyrddin."
Mae Cyn Brif Weithredwr Bwrdd yr Iaith wedi dweud wrth BBC Cymru nad yw datblygiadau tai o reidrwydd yn cael effaith negyddol ar y Gymraeg. Yn ôl Meirion Prys Jones, mi allai datblygu tref Caerfyrddin fod o fudd i'r Gymraeg fel iaith gymunedol :
"Mae yna botensial cyn belled a'i fod yn cael ei gysylltu â nifer o ddatblygiadau ym maes economi a'r cyngor sir yn defnyddio'r Gymraeg fel iaith weinyddol fewnol."
"Y sialensiau i Sir Gâr yw allfudo a phobl yn symud mewn,... mae'n rhaid cael swyddi... mae'n rhaid cael elfen o fywyd dinesig yn rhywle fel Caerfyrddin."