Teyrngedau i Ashley Talbot wedi gwrthdrawiad Maesteg
- Cyhoeddwyd

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i fachgen 15 oed fu farw wedi gwrthdrawiad yn Ysgol Maesteg ddydd Mercher.
Mae'r Heddlu yn parhau i ymchwilio i farwolaeth Ashley Daniel Talbot yn dilyn y gwrthdrawiad gyda bws mini yn yr ysgol.
Dywedodd ei gyd-ddisgyblion y byddai bwlch yn eu bywydau wedi'r digwyddiad.
Mae Chris Brookes, athro ymarfer corff oedd yn gyrru'r bws mini, wedi dweud: "Mae fy holl feddyliau, a gweddïau gyda theulu Ashley."
Roedd swyddogion Heddlu De Cymru yn bresennol yn yr ysgol cyn i wersi ddechrau dydd Iau, gyda'r gobaith o gasglu gwybodaeth gan unrhyw dystion i'r digwyddiad.
'Ni fyddwn yn ei anghofio'
Digwyddodd y gwrthdrawiad ychydig wedi 15:00 ddydd Mercher.
Cafodd bachgen arall 13 oed fan-anafiadau yn y digwyddiad.
Cafodd y Gweithgor Iechyd a Diogelwch wybod am y digwyddiad, ond nid ydyn nhw'n ymchwilio ar hyn o bryd.
Mewn datganiad, dywedodd cyd-ddisgyblion Ashley y byddai "bwlch fydd yn amhosib i'w lenwi" yn dilyn ei farwoaleth.
"Roedd bob tro yn gwmni da ac yn ffrind da i bawb oedd yn ei adnabod.
"Roedd o'n frwdfrydig iawn am ei fotobeic ac am drwsio ceir. Roedd Ashely bob tro yn edrych am y gorau mewn pobl.
"Bydd o yn ein calonnau am byth. Ni fyddwn yn ei anghofio."
Dywedodd cadeirydd llywodraethwyr yr ysgol, Keith Edwards, fod aelod o'r staff yn gyrru'r bws mini. Roedd ar y ffordd i gêm rygbi pan ddigwyddodd y ddamwain.
Mewn datganiad dywedodd yr ysgol: "Mae ein meddyliau gyda'r teulu, ffrindiau a phawb sydd wedi cael eu heffeithio gan y ddamwain drasig".