Rhybudd melyn am wyntoedd cryf ac eira yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybuddion melyn am wynt ac eira mewn rhannau o Gymru ddydd Gwener.
Mae disgwyl y bydd hyd at 5cm o eira yn disgyn ar draws mannau uwch yng ngogledd Cymru nos Wener, ac fe all hynny achosi perygl o rew erbyn bore Sadwrn.
Yn y de, mae rhybudd am wyntoedd cryfion gyda chyfnodau o law trwm.
Mae rhybudd melyn yn golygu bod angen i bobl fod yn ymwybodol o'r risg o dywydd garw.
Rhybudd melyn
Bydd ardal o wasgedd isel yn symud i mewn i Gymru yn gynnar ddydd Gwener, gan ddod a glaw i lawer o'r wlad.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio bod eira yn debygol yn y gogledd, ac fe all hyd at 5cm ddisgyn ar dir uchel, a 2cm ar dir is.
Mae disgwyl i'r eira glirio erbyn y nos, ond mae rhybudd i yrwyr fod yn ymwybodol o rew fore Sadwrn ar ffyrdd sydd heb eu trin.
Y disgwyl yw i siroedd Conwy, Dinbych, Y Fflint, Gwynedd a Wrecsam gael eu heffeithio.
Dros siroedd y de, fe all gwyntoedd cryfion a glaw trwm daro dros nos Iau ac i mewn i fore Gwener.
Mae disgwyl gwyntoedd o dros 50 mya, ac mae rhybudd melyn mewn grym i'r cyhoedd fod yn ymwybodol o risg i goed, trefniadau teithio a chyflenwadau pŵer.