Ymgyrch Sgorpion: Cyhuddo pedwar o'r gogledd orllewin
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhuddo pedwar o bobl yn dilyn cyrchoedd pellach fel rhan o ymgyrch 'Scorpion'.
Fe gafodd cyrchoedd eu cynnal fore Mercher yng Nghriccieth, Porthmadog, Nefyn a Phenrhyndeudraeth.
Mae dyn 19 oed o Benrhyndeudraeth, a dynes 19 oed o Nefyn wedi eu cyhuddo o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A a B, yn ogystal â dyn 20 oed o Borthmadog, a dyn 21 oed o Flaenau Ffestiniog.
Mae pob un wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth, a byddant yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caernarfon ar 22 Rhagfyr 2014.
Mae merch 16 oed o Nefyn a dyn 28 oed o Borthmadog hefyd ar fechnïaeth tra bod yr heddlu yn gwneud ymholiadau pellach.
Dywedodd DI Arwyn Jones, sy'n arwain yr ymchwiliad: "Mae'r cyhuddiadau yma yn dod a chyfanswm o 22 cyhuddiad fel rhan o ymgyrch 'Scorpion'. Mae hyn yn dyst i'n hymrwymiad i fynd i'r afael â throseddau difrifol yng Ngogledd Cymru.
"Hoffwn ailadrodd ei bod yn ddyletswydd ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am gynhyrchu a chyflenwi cyffuriau anghyfreithlon i gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu fel arall drwy Taclo'r Taclau ar 0800 555 111."