Tywysog Cymru yn ymweld â de Cymru
- Cyhoeddwyd

Fe gafodd Tywysog Cymru groeso cynnes yn ystod ymweliad â de Cymru fore Gwener.
Er gwaethaf y tywydd gwyntog ac oer, fe ddaeth pobl Trecelyn, Caerffili, ynghyd i weld tywysog yn ail-agor y neuadd goffa ar ei newydd-wedd.
Fe wnaeth yr adeilad rhestredig Gradd II, sy'n dyddio'n ôl i 1925, ddod yn agos i ennill rhaglen deledu Restoration y BBC. Mae'r gwaith adnewyddu wedi cymryd 10 mlynedd i'w gwblhau.
Wrth i'r tywysog gerdded i lawr y stryd tuag at y neuadd roedd plant o Ysgol Gynradd Pentremawr yn canu carolau Nadolig tra'n chwifio baneri Cymru a Jac yr Undeb.
Fe fu'n sgwrsio â grŵp o blant bach lleol sydd yn mynychu sesiynau wythnosol yn y neuadd, yn ogystal a sawl un o'r dorf oedd wedi aros ynoiw gyfarch.
Brynhawn Gwener fe aeth y Tywysog Charles i wylio milwyr sydd wedi dychwelyd o Afghanistan yn gorymdeithio drwy ddinas Abertawe.
Bu milwyr y Queen's Dragoons Guards - y Cafalri Cymreig - yn cwrdd â'r tywysog, sydd hefyd yn brif gyrnol i'r gwarchodlu.
Y milwyr oedd yr olaf o Brydain i adael talaith Helmand yn Afghanistan yn gynharach eleni.
Yn ystod ei ymweliad cafodd y tywysog yn cael ei dywys o amgylch Neuadd y Ddinas, adeilad sydd wedi ei adnewyddu yn ddiweddar.
Roedd rhai o ffyrdd y ddinas ar gau yn ystod yr orymdaith a'r seremoni y tu allan i Neuadd y Ddinas bnawn Gwener.