Hwyl yr Ŵyl 2014

  • Cyhoeddwyd
.
Disgrifiad o’r llun,
Roedd yr haul yn gwenu ar y ddwy ferch ifanc yma yn Eisteddfod yr Urdd y Bala ym mis Mai
.
Disgrifiad o’r llun,
Bywyd mewn swigen. Dau o ymwelwyr ifanc Wakestock - Gŵyl y Môr yn mwynhau eu hunain
Disgrifiad o’r llun,
Ar garlam yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd
Disgrifiad o’r llun,
Guto Dafydd yn gadael y Pafiliwn gyda'r Archdderwydd, Christine James, ar ôl ennill y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr
Disgrifiad o’r llun,
Sgwn i os wnaeth yr eisteddotwr anghyffredin hwn fwynhau cerdd fuddugol Guto?
Disgrifiad o’r llun,
Elin Fflur yn mochel rhag y glaw yn ystod Gŵyl Gardd Goll
Disgrifiad o’r llun,
Yr haul yn machlud ar ol diwrnod prysur arall yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd
Disgrifiad o’r llun,
Y dorf wrth eu boddau yn ystod perfformiad Anti-flag yng ngŵyl Merthyr Rock
Disgrifiad o’r llun,
Noson i'w chofio yng Ngŵyl Gwydir, Llanrwst
Disgrifiad o’r llun,
'Spark' yn tanio'r dychymyg yng Ngŵyl Rhif 6 ym Mhortmeirion ym mis Medi
Disgrifiad o’r llun,
Môr o gapiau gwyrdd yn barod i gystadlu yn nhreiathlon Ironman Cymru yn Ninbych y Pysgod
Disgrifiad o’r llun,
Gŵyl Gyhoeddi: Mae pobl ifanc Caerffili wrth eu boddau y bydd Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal yno yn 2015
Disgrifiad o’r llun,
Ar lan y môr... mae Elvis. Daeth cannoedd o ddynwaredwyr y canwr poblogaidd i Borthcawl yn ôl eu harfer ym mis Medi
Disgrifiad o’r llun,
Cyfle i gael paned a chlonc yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd ddechrau Rhagfyr