330 o swyddi peirianyddol mewn peryg yn Sir Fynwy
- Cyhoeddwyd

Mae tua 330 o swyddi mewn peryg yng Nghas-gwent, Sir Fynwy, ar ôl i gwmni peirianyddol Mabey Bridge gyhoeddi eu bod yn bwriadu cau eu safle yn Station Road.
Mae'r safle yn Station Road yn cyflogi 150 o bobl.
Dywed y cwmni eu bod hefyd yn edrych i werthu eu safle arall yn y dref yn ardal Newhouse, sy'n cyflogi tua 180.
Yn ôl llefarydd ar ran Mabey Bridge maen nhw'n ffyddiog y byddant yn dod o hyd i brynwr ar gyfer yr ail safle,
Dywed y cwmni nad oedd y penderfyniad yn un hawdd "a'u bod yn deall fod hwn yn gyfnod anodd iawn i'w gweithwyr.....byddwn yn ceisio cynnig gymaint o gymorth ag sy'n bosib dros yr wythnosau nesaf.
"Credwn bydd y newidiadau yn gwneud y cwmni yn gryfach ac yn fodd o sicrhau dyfodol i fusnes pontydd y cwmni yn Lydney (Sir Gaerloyw)."